SWYDDI

HYRWYDDWR CYMUNEDOL – CAERDYDD

Rydym yn chwilio am Hyrwyddwr Cymunedol i weithio yng Nghaerdydd ar gontract llawrydd 7 mis.

Bydd yr Hyrwyddwr Cymunedol yn gyfrifol am ymgysylltu â thrigolion Llaneirwg a Trowbridge dros 60+ oed, rhannu The Posh Club gyda nhw, a’u helpu i fod yn bresennol.

Byddwch yn rhywun sy’n hoffi pobl gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Byddwch yn gweithio ar y cyd â thîm creadigol ac yn wych am ddatrys problemau, gan fynd yr ail filltir i gefnogi henoed Llaneirwg a Trowbridge i gymryd rhan a mwynhau The Posh Club.

Mae profiad ac angerdd am weithio gyda phobl yn hanfodol. Rydym yn credu y gellir dysgu’r sgiliau hyn mewn sawl ffordd, ac mae gennym ddiddordeb mewn pobl a allai fod yn rhoi cynnig ar rôl fel hon am y tro cyntaf.

Rôl: Hyrwyddwr Cymunedol
Lleoliad: Llaneirwg a Trowbridge, Dwyrain Caerdydd
Cyfnod: Mehefin – Rhagfyr 2024
Ffi: £3,000 (£150 y dydd x 20 diwrnod)

Mae Common Wealth a Duckie yn cydweithio i lwyfannu The Posh Club yn Llaneirwg yn ystod 2024. Mae The Posh Club yn de prynhawn mawreddog, tymhorol, ac yn gyfle i henoed hynaws yr ardal ddawnsio a sgwrsio – clwb cymdeithasol i bobl hŷn (60+)

Rydym am benodi Hyrwyddwr Cymunedol i’n helpu i nodi a chefnogi unigolion a grwpiau nad ydynt wedi dod eto. Mae The Posh Club yn dod â phobl ynghyd ac yn mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd – bydd yr Hyrwyddwr Cymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyrraedd y rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag dod.

Rolau a Chyfrifoldebau

• Ffurfio perthynas â chymuned leol Llaneirwg a Trowbridge a grwpiau targed gyda briff ac arweiniad gan Common Wealth
• Gweithredu fel llysgennad ac eiriolwr ar gyfer The Posh Club yn y gymuned
• Gweithredu fel y pwynt cyswllt allweddol rhwng y gynulleidfa a Common Wealth
• Gyda chefnogaeth Common Wealth, cynllunio a chyflawni cynllun ymgysylltu i gyrraedd cynulleidfa darged The Posh Club
• Ymgysylltu o ddrws i ddrws, estyn allan at bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag dod a’u cefnogi gyda’r holl ofynion mynediad
• Cydlynu cyfarfodydd gyda grwpiau neu unigolion posib gyda chefnogaeth y Cynhyrchydd Cymunedol
• Cynnal ymchwil lleol ar ran y tîm creadigol
• Datblygu a chynnal presenoldeb lleol ac ar-lein drwy rannu gweithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol
• Codi ymwybyddiaeth o Common Wealth a The Posh Club

Sgiliau a Phrofiad Angenrheidiol

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Sgiliau trefnu ardderchog
• Cysylltiad neu wybodaeth am Laneirwg a Trowbridge, eu cymunedau a/neu grwpiau targed
• Dealltwriaeth o sut i ymgysylltu â chymunedau amrywiol
• Profiad o gelfyddyd neu waith tebyg mewn cyd-destun cymunedol
• Mae cludiant eich hun yn ddymunol
• Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol

Dyddiadau:

15 Mai – dyddiad cau ar gyfer y rôl
23 Mai – Cyfweliadau Rhwng

27-7 Mehefin – 5 diwrnod ymgysylltu (hyblyg)
13 Mehefin – Posh Club (Haf)
8 Awst – Posh Club Boutique
Rhwng 9-29 Awst – 5 diwrnod ymgysylltu (hyblyg)
12 Medi – Posh Club (Hydref)
7 Tachwedd – Posh Club Boutique
Rhwng 8-22 Tachwedd – 5 diwrnod ymgysylltu (hyblyg)
5 Rhagfyr – Posh Club (Gaeaf)

Bydd gofyn i’r Hyrwyddwr Cymunedol weithio ar y dyddiadau uchod ar gyfer The Posh Club a’r Posh Club Boutiques. Bydd yr Hyrwyddwr Cymunedol yn cefnogi’r tîm i osod, cynhyrchu a chadw pob digwyddiad.

Fel y cytunwyd gyda Common Wealth, gall y diwrnodau ymgysylltu fod yn gyfleus i ddeiliad y swydd.

Adrodd i’r Cynhyrchydd a’r Cynhyrchydd Cymunedol I wneud cais: Llenwch ein ffurflen monitro cyfle cyfartal ar-lein

I wneud cais:

Llenwch ein ffurflen monitro cyfle cyfartal ar-lein

Anfonwch gopi o’ch CV a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4 neu ddolen i fideo 3 munud), yn amlinellu’r hyn rydych chi’n meddwl y gallech chi ei gyfrannu i’r rôl, pa brofiadau rydych chi wedi’u cael a fyddai’n eich helpu i wneud cysylltiadau priodol a pharhaol ar gyfer y prosiect a’r cynulleidfaoedd rydym yn ceisio eu cyrraedd.

E-bostiwch y rhain at [email protected] erbyn 1pm ar 15 Mai
Nodwch ‘Hyrwyddwr Cymunedol’ yn llinell pwnc yr e-bost.