Cynhyrchydd Ieuenctid Creadigol, Llawrydd
Mae Common/Wealth yn chwilio am Gynhyrchydd Ieuenctid Creadigol (CYP) llawrydd i weithio ar ein rhaglen greadigol yng Nghaerdydd.
Bydd y CYP yn gyfrifol am recriwtio a meithrin perthynas â phobl ifanc a fydd yn cymryd rhan yn Take Your Place. Bydd y prosiectau’n digwydd yn Ne Caerdydd. Bydd y CYP yn gweithio gyda Common/Wealth i gyd-ddylunio a chyd-hwyluso sesiynau creadigol Take Your Place.
Bydd y CYP hefyd yn cefnogi Common/Wealth gyda dyletswyddau gweinyddol, megis archebu lleoedd ar gyfer gweithdai, teithio a llety, rheoli anfonebau, a dogfennau a gwerthusiadau ategol.
MANYLION Y RÔL
Teitl y Rôl: Cynhyrchydd Ieuenctid Creadigol
Ffi: £3500, 20 diwrnod am £175 y dydd
Dyddiadau: Gorffennaf 2025 – Mawrth 2026 (hyblyg, yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau)
Statws y contract: Llawrydd
Yn atebol i’r: Cyd-Gyfarwyddwr Artistig/Cynhyrchydd Creadigol
Lleoliad: amrywiol leoliadau yng Nghaerdydd
GWNEUD CAIS AC AMSERLEN
Darllenwch y Wybodaeth Recriwtio yn llawn, yn (Cymraeg) neu yn (Saesneg).
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol ac eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant theatr, a chan y rhai sy’n profi gwahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n Ddu, Asiaidd, Roma, o Ddwyrain Ewrop, cwiar, sydd â phrofiad ymarferol o anabledd, cyfrifoldebau gofalu neu sydd â phrofiad o ofal.
I fynegi eich diddordeb yn y rôl hon, anfonwch eich CV cyfredol, ynghyd â llythyr eglurhaol o ddim mwy na 2 ochr A4 yn nodi sut rydych chi’n bodloni manyleb y person, at:
[email protected] erbyn 10am, dydd Llun 20 Mehefin.
Gallwch hefyd ddarparu’r holl wybodaeth hon (CV a sut rydych chi’n bodloni manyleb y person) drwy fideo neu glip sain (dim mwy na 5 munud) a’i hanfon drwy e-bost.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch, drwy e-bostio [email protected]
Cofiwch lenwi ein Ffurflen Cyfle Cyfartal hefyd, sydd ar gael yma.
Bydd y rhai a wahoddir i gyfweliad am y rôl yn cael gwybod erbyn diwedd 24 Mehefin. Byddwn yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. I’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn gofyn i chi ddod i gyfarfod anffurfiol gyda dau aelod o’n tîm, wyneb yn wyneb yn ddelfrydol, yn ein swyddfa yn Nwyrain Caerdydd. Cynhelir cyfweliadau ar 1 Gorffennaf.
Ein bwriad yw bod y rôl yn dechrau tua 21 Gorffennaf 2025.