shows

When it Rains it Pours

mwy

When it Rains it Pours

When It Rains It Pours

WHEN IT RAINS IT POURS gan Alice Parsons, wedi’i gyd-greu gyda phobl ifanc o Bradford a’r Youth Strike for Climate.

Yn 2018, Indonesia oedd y wlad ddiweddaraf i gyhoeddi bod ganddi gynlluniau i symud ei phrifddinas. Mae Jakarta, y brifddinas bresennol yn suddo ac yn cael trafferth gydag ansawdd aer sy’n dirywio’n gyflym.

Mae symud prifddinas yn gyfle enfawr i ail-lunio ac ail-ddychmygu’r hyn y gall prifddinas fod. Bradford yw dinas uchaf y DU uwchlaw lefel y môr, gyda hanes radical ac un o boblogaethau ieuengaf Ewrop. Sut beth fyddai petai Bradford yn dod yn brifddinas y DU?

Pan fyddwn yn meddwl am brifddinasoedd, mae’r rhan fwyaf ohonom yn gweld delwedd eiconig. Rydym yn gweld lluniau o leoedd prysur, llawn bwrlwm, pwerus a lleoedd gwneud penderfyniadau. Caiff prifddinasoedd eu hystyried yn ganolfannau diwylliant a masnach ac yn aml maent yn cynrychioli gwlad a’i gwerthoedd ar lwyfan y byd.

Ond mae’r ddelwedd hon yn newid ac mae ein prifddinasoedd yn symud, mae rhai hyd yn oed yn suddo.

Mae When it Rains it Pours yn defnyddio lluniau o’r archif a chollage sain sydd newydd ei gynhyrchu i gyflwyno synfyfyrion ar ddewis amgen i drefnu, dinasoedd, yr argyfwng hinsawdd a gwneud penderfyniadau.

Mae Alice Parsons yn gynhyrchydd, yn hwylusydd ac yn ymchwilydd o Lerpwl sydd wedi’i lleoli yn Bradford ers pedair blynedd. Ar gyfer y darn hwn mae hi wedi gweithio gyda ffilm o’r archif yn ogystal â chynhyrchu sgript newydd ar gyfer sain.

Gyda diolch i’r Yorkshire Film Archive a’r National Science and Media.

Gadewch eich meddyliau am Bradford fel y brifddinas argerdyn post.. Gwrandewch ar y sain wrth i chi archwilio.

Alice Parsons

Mae Alice yn Gynhyrchydd Creadigol, Ymchwilydd a Hwylusydd o Lerpwl, wedi’i lleoli yn Bradford. Mae’n gweithio gyda deunydd archifol a sain i hwyluso sgyrsiau a chynhyrchu gwaith sy’n ymwneud â threfnu, anghydweld a chyfiawnder cymdeithasol. Fel Cynhyrchydd mae wedi gweithio i amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Opera North a’r Amgueddfa Genedlaethol o Wyddoniaeth a Chyfryngau. Ar hyn o bryd hi yw Rheolwr Ymgysylltu Amgueddfa Hanes y Bobl, Manceinion ac yn Ymddiriedolwr yn Oriel Open Eye, Lerpwl. Dyma fydd ei chomisiwn cyntaf i’w arddangos fel artist arweiniol.