shows

There is an Alternative

mwy

There is an Alternative

Dydd Mawrth 20 Gorffennaf – dydd Sadwrn 21 Awst rhwng 12 a 5pm yn y Common Space, Canol Dinas Bradford BD1 3JT

Mae There is an Alternative yn arddangosfa gelf ryngddisgyblaethol gyda 9 gwaith celf yn archwilio ffyrdd newydd o feddwl a threfnu materion o’n cyfnod; gofal cymdeithasol, yr argyfwng hinsawdd, beichiogrwydd, y system fewnfudo, meddyginiaeth, diwylliant hoyw, ffasiwn cyflym, trais ieuenctid a llafur anweledig.

Mae’r arddangosfa hon yn ymwneud â’r fan a’r lle, mae hefyd yn ymwneud â’n dyfodol a’r byd rydym am ei adeiladu – a’i drosglwyddo.

Mae ffurfiau celf yn cynnwys gosod, fideo, sain, ffotograffiaeth, darlunio, gwneud printiau a thecstilau. Gall celf fod yn adnodd ar gyfer newid, gan ganiatáu i ni gael mynediad at safbwyntiau a phosibiliadau newydd.

Roedd ‘There is no alternative’ yn ymadrodd a ddefnyddiwyd gan Maggie Thatcher yn yr 80au, roedd yn lleihau gobaith a phosibilrwydd. Mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed siarad am ddewisiadau amgen, gan feithrin undod a defnyddio celf i’n helpu i ddychmygu pethau’n wahanol.

Dyddiadau arddangos

Bydd yr arddangosfa’n agor o ddydd Mawrth 20 Gorffennaf – dydd Sadwrn 21 Awst rhwng 12 a 5pm bob dydd yn Common Space yng Nghanol Dinas Bradford, 1-3 John Street, BD1 3JT

Mynediad

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad. Mae teithiau cyffwrdd a disgrifiadau sain ar gael. Mae’r arddangosfa ar y llawr gwaelod ac mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar lefel y ddaear. Mae toiledau i bobl anabl i fyny’r grisiau ac yn anffodus – er bod y lifft yn gweithio – nid yw’n bodloni gofynion modern o ran maint cadeiriau olwyn. Mae toiledau i bobl anabl ar gael ym Marchnad Oastler (yn yr un adeilad â ni) Cysylltwch â Shazia ar [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau.

 

Nid yw Ffasiwn Cyflym yn Rhad: Gweithdy Trwsio

Dydd Mawrth 17 Awst 2021, 2-4 pm

Fel rhan o “There is an Alternative” byddwn yn cyflwyno gweithdy i ddysgu unrhyw un sut i drwsio eu dillad eu hunain. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac nid oes angen unrhyw brofiad gwnïo blaenorol. Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn pecyn gwnïo am ddim i fynd ag ef adref, fel y gallant ddefnyddio eu sgiliau newydd i achub eu hoff ddillad o safleoedd tirlenwi.
Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, ar ffurf pellter cymdeithasol, bydd pob cyfranogwr yn creu ei ddarn ei hun y gallant fynd ag ef adref gyda nhw.
Cynhelir y gweithdy yn the Common Space ddydd Mawrth 17 Awst am 2pm. Bydd yn para 2 awr. Dim ond 10 lle sydd ar gaelfelly byddwn yn gweithio ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch ymlaen llaw drwy e-bostio: [email protected].uk

Cwestiynau Cyffredin

A allaf ddod â phlant / teulu i’r arddangosfa? Gallwch. Mae’r arddangosfa yn agored i bawb. Bydd gennym bapur a beiros ar gael i blant dynnu llun. Nodwch fod rhaid goruchwylio pob plentyn a pheidio â chyffwrdd ag unrhyw un o’r gwaith celf.

Pa weithdrefnau sydd gennych mewn lle o ran Covid-19? Yn y gofod ni fydd gennym fwy na 30 o bobl ar unwaith, mae gorsafoedd glanweithdra a masgiau ar gael ar y ddesg groeso. Rydym yn cynghori pobl i wisgo eu masgiau a chadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl, fodd bynnag, o dan y canllawiau wedi’u diweddaru gan y llywodraeth, mae hyn yn ôl disgresiwn pob unigolyn/grŵp. Parchwch aelodau eraill o’r cyhoedd a allai fod ag agweddau gwahanol o ymdrin â Covid-19 na chi eich hun.

Os oes gennych UNRHYW symptomau coronafeirws, PEIDIWCH â dod. Mae’r symptomau’n cynnwys:

  • Peswch Parhaus
  • Twymyn/Tymheredd Uchel
  • Anhawster anadlu
  • Cur pen
  • Myalgia (Poen cyhyrau)
  • Colli arogl posibl
  • Llid pilen y llygad
  • Blinder

Gwybodaeth ac arweiniad llawn: Coronafeirws (COVID-19): arweiniad a chymorth – GOV.UK (www.gov.uk)

Sut mae archebu? Nid oes proses archebu, mae’r arddangosfa’n un galw heibio.

Ydw i’n talu neu a yw’n rhad ac am ddim? Mae’r arddangosfa am ddim i bawb. Byddem yn ddiolchgar o unrhyw roddion a fyddai’n cyfrannu at redeg Common Space yn y dyfodol ac mae cyfleusterau ar gael yn y gofod ar gyfer rhoddion cerdyn neu arian parod os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Oes gennych chi luniaeth yn eich gofod? Ni chaniateir bwyta nac yfed yn yr arddangosfa ac nid oes lluniaeth ar gael.

A oes unrhyw doiledau ar gael? Gellir dod o hyd i doiledau, gan gynnwys toiled hygyrch ym Marchnad Oastler (o fewn yr un adeilad). Gofynnwch i’n staff am gyfarwyddiadau os nad ydych yn gyfarwydd â’r ardal.

Pa mor hir ydych chi’n ei argymell yw’r amser addas i archwilio’r arddangosfa? Rydym yn awgrymu hyd at 1 awr gan fod gwahanol elfennau fel sain y gallech fod eisiau gwrando arnynt yn ystod eich ymweliad.

A oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi i gael y profiad llawn? Rydym yn eich cynghori i ddod â chlustffonau ynghyd â’ch ffôn sydd â mynediad i’r rhyngrwyd. Mae tair arddangosfa wahanol sydd â chysylltiadau â’r sain lawn drwy god QR. Manylion llawn ar arwyddion yn yr arddangosfa.

A oes lle i storio bagiau/cotiau yn ystod fy ymweliad? Nid oes gennym ystafell gotiau a byddwn yn gofyn i chi gadw eich eiddo gyda chi.