shows

Cut the Red Tape

mwy

Cut the Red Tape

CUT THE RED TAPE gan Vic Cruz wedi’i gyd-greu gyda thri cheisiwr lloches sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio am loches ar hyn o bryd, un person a gafodd statws lloches 40 mlynedd yn ôl a Gwas Sifil o’r Swyddfa Gartref. Roedd pawb am aros yn ddienw.

Archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘ddinesydd da’. Mae pobl sy’n ceisio statws lloches yn y wlad hon yn ymarfer bod yn ddinasyddion da beth bynnag fo’u statws, gan anfon plant i’r ysgol, gofalu am y tir a chyfrannu at y gymuned leol. Mae’r arfer o fod yn ddinesydd da yn aml yn anodd ac yn drawmatig i bobl sydd yn y broses o ddod yn ffoaduriaid ac nid yw’r un peth i rywun sydd eisoes â ‘statws cyfreithiol’. Mae’r amser aros hir ac ansicr, lle nad ydynt yn cael gweithio na chynllunio ar gyfer y dyfodol, yn gythryblus ac yn rhoi pwysau diangen ar bobl sydd angen cymorth, empathi ac adnoddau yn arbennig, i barhau i ymarfer dinasyddiaeth dda.

Yr wyf yn cynnig datgan pawb sy’n ceisio lloches yn rhan o dir comin byd-eang.

Defnyddir tir comin byd-eang fel term i nodi adnoddau naturiol y ddaear gan gynnwys a chyn belled â’r cefnforoedd dwfn, yr atmosffer, y gofod allanol, Pegwn y Gogledd a’r Antarctig. Maent yn gyfrifoldeb a rennir a dylent gael eu diogelu a’u coleddu gan y byd i gyd. Mae tir comin byd-eang hefyd yn cynrychioli dull rheoli sy’n seiliedig ar feddwl am systemau, trawsnewid a hunan-drefniadaeth er mwyn sicrhau’r gorau mewn pobl.

Pe gallai pobl ddiniwed sy’n ffoi rhag rhyfeloedd ddod yn aelodau o’r tir comin byd-eang, byddem yn rhannu’r cyfrifoldeb o ailadeiladu eu bywydau, rhaid i ni drysori eu cyfraniadau at ein cymunedau, cael gwared ar fiwrocratiaeth a system annigonol a darfodedig nad yw’n gweithio’n dda ar hyn o bryd.

Gadewch i ni ddod yn ddinasyddion gweithgar un byd a pharhau i ddiogelu holl DIROEDD COMIN BYD-EANG!