shows

Highly Strung

mwy

Highly Strung

HIGHLY STRUNG gan Aya Haidar

Mae Highly Strung yn gorff gwaith parhaol, sy’n archwilio syniadau am fod yn fam, bywyd teuluol a pha mor anweledig yw llafur menyw. Wedi’i gynhyrchu dros 365 diwrnod, lluniodd Haidar gofnod o weithred o lafur anweledig a gyflawnodd, un am bob diwrnod o’r flwyddyn.

Mae’r gweithredoedd cyffredin hyn yn cyfleu ei bywyd bob dydd, fel mam, gwraig, gofalwr a menyw.

Mae pob gweithred wedi’i brodio’n ofalus ar eitem a welir yn y cartref ac wedi’i chyflwyno ar leiniau dillad, Highly Strung . Mae’r gosodiad yn gwahodd y gynulleidfa i lywio eu ffordd drwy’r gofod, wedi’i ddatblygu gan gyfaint y gwaith, gyda’r nod o wneud yr anweledig yn weladwy.

Mae Haidar yn ail-leoli’r gofod domestig fel safle gwleidyddol sy’n archwilio ei berthynas â gwaith artistig, ailadrodd, gwaith gofal, cyflogedig/di-dâl, glanhau, rhianta a gwaith y corff. Mae proses brisio’r gwaith yn gynhenid yn gysyniadol ac yn ymgais chwareus i fesur grym llafur bod yn fam bob eiliad o bob dydd, yn ddi-dâl ac yn cael ei danbrisio mewn cymdeithas. Mae wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar weithio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am un flwyddyn gyfan ar gyfradd fesul awr o £8.72 – y band isafswm cyflog isaf ar gyfer pobl dros 25 oed yn y DU.

Mae Aya Haidar yn artist rhyngddisgyblaethol Libanaidd-Prydeinig y mae ei harfer seiliedig ar grefft yn datblygu naratifau tawel o amgylch materion cymdeithasol a gwleidyddol. www.ayahaidar.com

Aya invites local mums to record one chosen act of invisible labour that you have performed today and pin it to the boards.Mae Aya yn gwahodd mamaulleol i gofnodi un weithred o lafur anweledig maent wedi’i gwneud heddiw a’i rhoi ar y byrddau.