shows

Epic Fail

mwy

Epic Fail

Beth petai methiant yn rhinwedd i’w goleddu, fel llwyddiant? Petai hynny’n wir, a fyddem i gyd yn teimlo’n well?

Mae Kid Carpet, Common Wealth a phlant ysgol Llanrhymni wedi bod yn siarad, yn creu, yn chwarae ac yn gwneud pethau’n anghywir. Maen nhw wedi creu robotiaid sbwriel, wedi canu caneuon, wedi gwisgo mwstash ffug ac (yn anffodus) wedi dyfeisio llaeth swigod.

Through two residencies at Glan Yr Afon Primary School Llanrumney, Kid Carpet, Common Wealth and the Year 5 pupils will co-create a performance made with and for young people and their families. EPIC FAIL – Nid oes ganddo’r atebion ond mae ganddo’r caneuon gorau, hysbysebion gwirion ar y teledu ac ymbarelau ar gyfer eich esgidiau.

Fideos

Tîm Creadigol

Artist Arweiniol – Ed Patrick (Kid Carpet)
Dramodydd – Vic Llewellyn
Hwylusydd Lleol – Justin Cliffe
Cyd-grewyr – Common Wealth a Myfyrwyr Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Glan yr Afon Caerdydd
Cynhyrchydd Cymunedol – Chantal Williams
Partner Peirianneg – Deborah Syrop Ysgol Peirianneg Caerdydd
Rheolwr Cynhyrchu – Nia Morris
Cymorth i’r Cynhyrchwyr – Katie Cooper a Graham Johnson

Partneriaid

Mae Epic Fail yn dod i Gaerdydd fel rhan o’r Rhwydwaith Teithio Moving Roots, dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Battersea gyda chyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Garfield Weston a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Gweithio gyda Ysgol Gynradd Glan yr Afon Caerdydd ac Ysgol Peirianneg Caerdydd.

Dyddiadau

15 ac 16 Mehefin 2022
1.30pm bob dydd (tua 60 munud)

Tocynnau: £3.50
Archebwch tocynnau yma

Ysgol Gynradd Glan-Yr-Afon
3 Browning Close
Llanrumney
Caerdydd
CF3 5NJ

Fel rhan o’r Rhwydwaith Teithio Moving Roots, bydd Epic Fail hefyd yn ymddangos mewn mannau newydd wedi’u cyd-greu yn Peterborough, Stoke a Wigan drwy gydol haf 2022.

Dyfyniadau

“Mae’r prosiect Epic Fail wedi bod yn hynod ddiddorol, ysgogol ac ysbrydoledig i’n dysgwyr yn Ysgol Gynradd Glan yr Afon. Mae’r sesiynau gweithdy rhyngweithiol ac ysgogol wedi sbarduno chwilfrydedd ac uchelgais yn ein plant i fod yn ddysgwyr galluog sy’n gallu mynd i’r afael â heriau mewn modd cadarnhaol a dewr.
Mae’r plant wedi cael eu herio’n adeiladol i dderbyn methiant fel arf ar gyfer twf a datblygiad personol, ac i ddatblygu meddylfryd i fynd i’r afael â methiant gydag agwedd gadarnhaol, fel meddylwyr creadigol a datryswyr problemau; sgiliau sy’n berthnasol i fyw a dysgu yn yr 21ain ganrif. Roedd strwythur dychmygus y prosiect yn annog ein dysgwyr llai hyderus i fynegi ac archwilio eu teimladau a’u syniadau mewn amgylchedd creadigol diogel a chyfforddus. Mae POB dysgwr yn aros yn frwdfrydig i Kid Carpet a’i dîm ddychwelyd i’r ysgol i greu sioe ar y cyd i rannu eu darnau amhrisiadwy o ddoethineb a chreadigrwydd o’u cyfnod preswyl cyntaf!” Graham Matthews, Pennaeth, Ysgol Gynradd Glan yr Afon

O ran croesawu methiant, ro’n i’n meddwl y byddai gen i’r holl atebion o ran dysgu’r plant sut i deimlo llai o straen a phwysau, ond mae’n debyg bod gen i lawer iawn i’w ddysgu am groesawu methiant hefyd! Mae gweithio gyda’r plant wedi bod yn anhygoel – bob tro maen nhw’n dod i mewn i’r ystafell maen nhw’n dod â swp ffres o egni, brwdfrydedd ac optimistiaeth. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y gallem i gyd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.”
Justin Teddy Cliffe- Hwylusydd Lleol

“Mae peirianneg yn ymwneud â gwneud pethau nad ydynt erioed wedi’u gwneud o’r blaen; dychmygu’r hyn sydd eto i’w ddychmygu; creu’r newydd er mwyn datrys problemau a helpu pobl. Rydyn ni’n dysgu drwy fethiant – yn aml dyma sut rydyn ni’n dod o hyd i’r atebion mwyaf creadigol. Os ydyn ni am annog mwy o amrywiaeth o feddylwyr i ddod yn beirianwyr, mae angen i bob person ifanc ystyried methiant fel rhan annatod o’r daith arloesi.”
Deborah Syrop – Ysgol Peirianneg Caerdydd