shows

Everyone is an artist mural

The Path Always Has Different Routes

mwy

The Path Always Has Different Routes

THE PATH ALWAYS HAS DIFFERENT ROUTES gan Haniyya Ejaz, wedi’i gyd-greu gyda Speakers Corner Collective

Bradford yw’r ddinas ieuengaf yn y DU gyda 45% o’r boblogaeth o dan 19 oed. Erbyn 2030, mae disgwyl iddi fod y ddinas ieuengaf yn Ewrop ond ychydig o gyfleusterau sydd i ddarparu ar gyfer datblygu’r bobl ifanc hyn sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’n demograffeg.

Mae fy arddangosfa yn archwilio’r digwyddiadau amgen a all gael eu cynnal os bydd mwy o fannau cyhoeddus ar gael i bobl ifanc. Rydym yn gweld y mannau hynny’n chwarae rôl ddeuol, o leihau troseddu drwy ddarparu gweithgareddau ysgogol amgen a chreu mannau croesawgar i droseddwyr ifanc gael eu hailsefydlu’n ôl i’n cymdeithas.

Mae Speakers Corner wedi’i letya yn Common Space, cyn ganolfan cyflogaeth ieuenctid. Ers sefydlu Speakers Corner yn 2016 rydym wedi trefnu ymgyrchoedd cyhoeddus, gweithdai a digwyddiadau sy’n dathlu pobl ifanc ac yn cymryd camau i newid y byd.

Mae Haniyya yn 19 oed, yn Bacistanaidd Prydeinig, wedi’i geni a’i magu yn Bradford ac mae’n aelod o Speakers Corner ers 2017. Mae Speakers Corner Collective yn gasgliad gwleidyddol, cymdeithasol a chreadigol, sy’n cael ei arwain gan fenywod.

I gael gwybod mwy am Speakers Corner, sut i ymuno a digwyddiadau ac ymgyrchoedd sydd ar y gweill, ewch i’n gwefan: www.commonwealththeatre.co.uk/bradford/speakers-corner/