shows

40 Days & 40 Nights

mwy

40 Days & 40 Nights

40 DAYS AND 40 NIGHTS gan Christopher John a Robbie Thomson

Chris ydw i. Mae gen i Syndrom Morquio. Clefyd hirdymor, dirywiol sy’n achosi llai o symudedd, lefel uchel o boen yn gyson, a disgwyliad oes byr. Rwy’n eiriolwr dros ddefnyddio a chyfreithloni meddyginiaethau entheogenig yn ddiogel.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, sylwais ar rywbeth yn ddamweiniol. Mewn parti, cyfunais ganabis gyda madarch psilocybin. Er gwaethaf pob ymwadiad diogelwch posibl…. Roedd yn wych. Yn llawer o hwyl. At hynny, sylwais ar effeithiau corfforol a meddyliol parhaol a oedd yn gorbwyso unrhyw feddyginiaeth fferyllol yr oeddwn erioed wedi’i chael. Ymddengys mai’r unig sgil-effeithiau parhaol i mi yw’r awydd i archwilio’r cysyniad o ysbrydolrwydd (mae’n ddiddorol), a derbyn fy moesoldeb cyfyngedig sy’n lleihau’n barhaus. Rwy’n mynd i farw. Rwyt ti hefyd. Mi fyddwn ni’n iawn. Rydw i wedi bod yn archwilio potensial y meddyginiaethau hyn byth ers hynny.

Ymhlith pethau eraill, cyflwynodd y pandemig 16 mis o unigrwydd. Elfen anghyfleus, yn sicr, ond nid yw’n dod yn agos at yr argyfyngau gwirioneddol y mae pobl wedi’u dioddef yn ddiweddar. Rydw i’n cydymdeimlo’n llwyr â phawb sydd wedi cael amser gwael. Yr unigedd y cawsom ein gorfodi i’w wynebu. Y teimlad o fod ar eich pen eich hun. Sylweddolais nad oeddwn erioed wedi ei deimlo, ac o’r herwydd, roeddwn bob amser yn ei ofni.

Roedd fy niddordeb newydd mewn athroniaeth grefyddol, a’r drefn feddyginiaethol yn caniatáu i mi edrych ar baradwys crefyddol amlwg heb sinigiaeth, a chasglu’r maeth alegoraidd a oedd wedi’i ymgorffori ynddo. Roedd gennyf ddiddordeb brwd yn y syniad bod llawer o arwyr crefyddol wedi ysgogi cysylltiad â’r elfen ddwyfol ar ôl cyfnod o drallod, yn aml ar ffurf unigedd. Meddyliwch am Demtasiwn Crist, Moses yn derbyn y Gorchmynion, Noa’n gweld colomen ar ôl llifogydd trychinebus…

Wedi fy ysbrydoli gan lu o ddamhegion o’r math hwn, dewisais ymgymryd â chyfnod o unigedd llwyr am 40 diwrnod a 40 noson. Dim ffôn. Dim cyfrifiadur. Dim teledu. Dim rhyngrwyd. Dim cerddoriaeth. Dim cyswllt o’r tu allan. Gyda phentwr mawr o lenyddiaeth o bwys ysbrydol, a chyflenwad mwy o ganabis a madarch psilocybin, clywais alwad Campbellian i antur ac ymatebais.

Recordiais ddyddiaduron fideo drwy gydol y broses ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Fy ffrindiau ofynnodd i mi wneud hyn. Roeddwn yn edrych ymlaen ac yn ddiolchgar am y fideos hyn i ysbrydoli darn gan yr artist Robbie Thomson, dyn a chanddo restr drawiadol o hir o lwyddiannau artistig, gwerthfawrogiad o ddirmyg, a dealltwriaeth ddofn o werth undod.