shows

Fast Fashion Isn’t Cheap

mwy

Fast Fashion Isn’t Cheap

FAST FASHION ISN’T CHEAP gan Mariam Rashid, wedi’i gyd-greu gyda Natasha Pearson, gwinadwraig a gafodd ei magu yn Bradford.

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag effeithiau niweidiol y diwydiant ffasiwn cyflym, a ffyrdd amgen o gynhyrchu dillad y gall pobl gyffredin eu fforddio.

Mae Mariam yn credu bod dillad yn ffordd o fynegi eich hun, felly mae’r darnau a gyflwynir i gyd yn ddillad y mae wedi’u gwneud iddi hi’i hun o’r newydd neu wedi’u huwchgylchu o ddarnau ffasiwn cyflym. Yn enwedig fel menyw Foslemaidd, mae creu dillad yn caniatáu’r rhyddid i Mariam wisgo’r hyn y mae’n gyfforddus ynddo heb aberthu ei steil.

Y dewis arall yn lle ffasiwn cyflym yw addysgu pobl mewn ysgolion am gynhyrchu dillad, a darparu gweithdai i bobl ddefnyddio’r sgiliau hynny. Neu, os nad yw gwnïo yn mynd â’ch bryd, beth am fuddsoddi mewn busnesau teilwra lleol. Gwelwyd bod gweithrediadau lleol ar raddfa fach wedi gweithio’n dda yn y gorffennol a ledled y byd. Cewch ragor o wybodaeth am hyn ar y wefan hefyd.

Mae Mariam yn fyfyriwr PhD Astroffiseg yng Nghanolfan Jodrell Bank Prifysgol Manceinion ar gyfer Astroffiseg. Roedd ei mam yn winadwraig ac wedi ei dysgu ers pan oedd hi’n ifanc, felly mae gwnïo wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed. Mae Mariam hefyd yn gwneud gwisgoedd ar gyfer cosplay. (instagram.com/bananasaurusrexcosplay)

Ewch i fastfashionisntcheap.info i ddod o hyd i wybodaeth am sut y gall pob cam o gynhyrchu dillad fod yn niweidiol i’n byd. Mae’r effeithiau’n eang, ac yn llawer gwaeth nag y byddech yn ei ddisgwyl mae’n debyg.

Nid yw Ffasiwn Cyflym yn Rhad: Gweithdy Trwsio

Dydd Mawrth 17 Awst 2021, 2-4 pm

Fel rhan o “There is an Alternative” byddwn yn cyflwyno gweithdy i ddysgu unrhyw un sut i drwsio eu dillad eu hunain. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac nid oes angen unrhyw brofiad gwnïo blaenorol. Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn pecyn gwnïo am ddim i fynd ag ef adref, fel y gallant ddefnyddio eu sgiliau newydd i achub eu hoff ddillad o safleoedd tirlenwi.

Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, ar ffurf pellter cymdeithasol, bydd pob cyfranogwr yn creu ei ddarn ei hun y gallant fynd ag ef adref gyda nhw.

Cynhelir y gweithdy yn the Common Space ddydd Mawrth 17 Awst am 2pm. Bydd yn para 2 awr. Dim ond 10 lle sydd so we will be working on a first come first serve basis, so please book in advance by emailing: gael felly byddwn yn gweithio ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch ymlaen llaw drwy e-bostio: [email protected]