Mae gofal yn ganolog i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Common/Wealth; mae’n edefyn sy’n rhedeg drwy’r holl waith, o sioeau mawr i brosiectau llai yn y gymuned, yn ogystal â’n gweithdai a’n gweithgareddau gyda phobl ifanc. Rydyn ni’n gwybod, er mwyn i’r holl bobl yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw allu ymgysylltu’n llawn â’n prosesau creadigol, bod angen eu cefnogi.
Mae hyn yn cael ei wneud drwy sawl math o gefnogaeth fugeiliol fel:
Neu, gallai fod yn rhywbeth ymarferol:
Gallai olygu cael gwared ar rwystrau i wella mynediad:
Meddai Chantal Williams, Cynhyrchydd Cymunedol ar gyfer Common/Wealth yng Nghaerdydd:
“Pan ydych chi’n gweithio gyda phobl ac yn defnyddio eu profiadau go iawn i greu sioe neu ymgyrch sy’n rhoi sylw i rywbeth perthnasol neu hanfodol yn eu bywydau; dylai angerdd a dynoliaeth fod wrth galon y gwaith.
Mae gofalu am les pobl yn fwy na dim ond ystyried yr amser y maen nhw’n rhan o’r broses gyda chi. Mae’n golygu bod yn ymwybodol o sut y bydd y broses yn cael effaith arnyn nhw: yn emosiynol, yn ariannol neu o ran sut y cânt eu gweld a’u hystyried.
Gallai olygu uwchsgilio, hyfforddiant sy’n berthnasol i lwybr yr unigolyn hwnnw neu hyd yn oed pris bysiau. Mae bod yn ymwybodol o’r amgylchiadau, anghenion mynediad, y ffyrdd y mae pobl yn gweithio a gwneud yn siŵr bod pobl yn iawn drwy gydol y broses yn hollbwysig i sicrhau amgylchedd diogel a chyfforddus a phrofiad cyfoethog i bawb archwilio themâu’r gwaith.
Mae gofal hefyd yn ymestyn i ganiatáu cyfrwng i bobl gyflwyno eu hunain a’u straeon, gan ddarparu’r offer a’r cymorth i alluogi pobl i fod yn ddewr a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wthio eu ffiniau’n gyfforddus.”
Mae ein dull o ymdrin â gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn hyblyg ac yn ddi-farn. Nid ydym yn gwneud i unigolyn ffitio o amgylch prosiect, rydyn ni’n gwneud i’r prosiect weithio o amgylch y bobl dan sylw.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gofal yn fwy canolog i’ch gwaith ond nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, mae’r Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig Evie a Rhiannon wedi creu canllaw ar weithio gyda gofal y gallwch ei ddarllen yn eu llyfr Do It Yourself: Making Political Theatre a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, neu gallwch ddechrau arni gyda’r darn isod:
Dyma sut ydyn ni’n gofalu:
Ry’n ni’n derbyn pobl fel maen nhw – rydyn ni’n gofyn i bawb ddod fel y maen nhw.
Dydyn ni byth yn colli golwg ar yr unigolyn na’r bobl, waeth pa mor anodd yw’r her.
Rydyn ni’n ymddiried mewn pobl i ddeall y sefyllfa maen nhw ynddi, i wybod beth maen nhw ei angen a beth yw’r ffordd orau o weithredu – weithiau mae’n golygu eu cefnogi gyda hynny.
Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn gallu gwneud pethau hollol ysbrydoledig.
Gwyddom fod tanfuddsoddi parhaus wedi creu straen dwfn mewn cymunedau dosbarth gweithiol, a bod hyn yn cael ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd.
Rydyn ni’n creu lle ac amser i siarad am beth bynnag sydd ar y gweill.
Dydyn ni ddim yn mynnu cadw at amserlenni – rydyn ni’n gweithio o gwmpas yr hyn sy’n codi ym mywydau pobl – gan newid cynlluniau a chyfeiriad yn ôl yr angen.
Mae rhai sioeau yn cymryd amser hir i ddatblygu, oherwydd dyna pa mor hir mae’n ei gymryd i greu’r perthnasoedd cywir a gwneud i sioe weithio o amgylch y pethau cymhleth sy’n digwydd ym mywydau pobl. Weithiau, oherwydd y pethau hynny, mae yna sioeau gwych yn mynd yn angof ac mae’n iawn gadael iddyn nhw fynd.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r sgiliau y mae’r criw i gyd yn eu cyfrannu ac yn cynnwys y perfformwyr yn hyn hefyd, felly mae talent ac egni pawb yn cael ei werthfawrogi.
Rydyn ni’n cadw’r rheswm mewn cof – pam ein bod ni’n gwneud y sioe, ei bod hi’n fwy na phob un ohonom ni.
Weithiau mae pobl sydd wedi teimlo anghyfiawnder dosbarth wedi dianc o’r lle y cawsant eu magu ynddo am resymau da ac maen nhw’n byw gyda llawer o boen. Rydym yn delio â hynny’n ofalus, gan gefnogi ond nid eu llethu. Yn aml, mae’n golygu bod yno i wrando.
Rydyn ni’n cynnal trafodaethau am y cwestiynau yma – sut ydyn ni’n mynd i weithio fel grŵp? Sut mae deinamig y grŵp yn cael effaith ar bob un ohonom, ac ar y gwaith? Sut gallwn ni wella ein gilydd, gan greu amgylchedd sy’n dda i weithio ynddo ac sy’n hael?
Rydyn ni’n siarad am y risgiau o rannu profiadau personol mewn gweithdai ac mewn perfformiadau. Gall fod yn ddadlennol a blinedig. Rydyn ni’n sicrhau bod pobl yn gwybod mai nhw sy’n gyfrifol am yr hyn sy’n cael ei gynnwys mewn sioe (a’r hyn sy’n cael ei dynnu allan).
Pan fydd gan bobl rwydd hynt i adrodd eu stori, gallant fynd i unrhyw le a gallai rhai o’r lleoedd maen nhw’n mynd fod yn anodd i bobl eraill eu clywed a hyd yn oed achosi tramgwydd. Rydyn ni’n siarad am y ffiniau sydd eu hangen o amgylch y gwaith ac yn llunio cytundebau sy’n amddiffyn pawb.
Mae angen cefnogaeth ar bobl sy’n anghyfarwydd â’r byd llawrydd ac sy’n penderfynu cymryd hoe o’u bywydau arferol i fod yn rhan o’ch sioe i ddeall yr hyn y maent yn ei wneud. Y dewisiadau sydd ganddynt a chanlyniadau’r dewisiadau hynny. Cyn i ni ddechrau, rydyn ni’n siarad am sut y byddan nhw’n dychwelyd i fywyd bob dydd unwaith y bydd y sioe drosodd.
Pan fydd pobl yn cymryd seibiant oddi wrth ymrwymiadau arferol i fod yn ein dramâu, rydyn ni’n eu talu’n iawn. Rydyn ni’n dilyn arferion gwaith tosturiol a theg (cymryd seibiannau, gweithio’n hygyrch ac ati)
Pan fydd sioeau’n dod i ben, gall pobl deimlo’n isel. Maen nhw wedi bod profi uchafbwyntiau ac yna maen nhw’n dod i stop. Rydyn ni’n cynllunio ymlaen llaw i barhau i gefnogi pobl ar ôl i’r gymuned agos ddod i ben. Gallai hyn gynnwys holi sut maen nhw, cyfarfodydd tîm neu ddod o hyd i gyfleoedd eraill y gallant gymryd rhan ynddynt. Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad â phobl ar ôl ein sioeau.