DIY_Immersive_Performance_Toolkit.pdf (251kb)
Sut allwn ni greu perfformiad ymgolli mewn modd moesegol i gynulleidfaoedd ei archwilio?
Pan mae realiti yn gorgyffwrdd, mae teithio mewn amser yn bosibl, ac mae gan gynulleidfaoedd gyfrwng.
Pan mae straeon yn cael eu hadrodd ar sail profiad personol, a bod y profiad hwn yn siarad yn uniongyrchol â chynulleidfaoedd gan ddefnyddio mwy na geiriau, mewn ffordd synhwyraidd, gorfforedig, y tu allan i’r byd hwn?
I roi cyhoeddusrwydd i’n gwaith newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan ymdreiddiad rhwydweithiau gweithredol gan yr heddlu, mae Common/Wealth wedi bod yn gweithio gyda’r Technolegydd Creadigol Nathaniel Mason i archwilio ac integreiddio technolegau XR cost isel a sain ymgolli mewn perfformiad sy’n benodol i safle. Rydyn ni’n gweld bod gan dechnoleg ymgolli rym i lunio ein dyfodol – sut mae straeon yn cael eu hadrodd a chan bwy.
Yn yr un modd â theatr, dylai hyn fod yn eiddo i bawb. Rydyn ni eisiau i’n cynulleidfa weld, teimlo, clywed, cydymdeimlo, deall, bod dan deimlad, a helpu i lunio sut mae’r dechnoleg hon yn cael ei datblygu a’i defnyddio.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig dulliau ymarferol ar gyfer gwneuthurwyr theatr, artistiaid a pherfformwyr sydd am arbrofi gyda thechnoleg i ychwanegu at realiti drwy gyfryngau ymgolli mewn perfformiad byw, i gyd heb fod angen cyllideb enfawr na thîm technoleg ymroddedig.
Mae’n canolbwyntio ar ddulliau gwneud pethau eich hun, offer hygyrch, a llifoedd gwaith ymarferol, arbrofol y gellir eu haddasu i gyd-destunau creadigol amrywiol.
Yn hytrach na llawlyfr cam wrth gam, mae hwn yn gasgliad o ddulliau, technegau a gwybodaeth y gellir eu cymysgu a’u cyfateb yn dibynnu ar yr anghenion, ond nid yw’n gynhwysfawr o bell ffordd. Mae’n cynnwys popeth o ddefnyddio taflunio fel ffynhonnell golau deinamig i integreiddio elfennau Realiti Estynedig amser real a gweledol ffrydio byw i mewn i ofod perfformiad. Mae’r pwyslais ar hyblygrwydd, gweithio gyda’r hyn sydd gennych, gwneud prototeipiau cyflym, a phrofi syniadau yn yr ystafell yn hytrach na bod yn gaeth i osodiadau technegol.
Mae theatr bob amser wedi bod yn weithred o drawsnewid, gan ddefnyddio dulliau syml i greu bydoedd eang. Mae’r pecyn cymorth hwn yn estyniad o’r traddodiad hwnnw, gan gynnig ffyrdd o osod cyfryngau digidol mewn haenau ar gyfer perfformiad gan barhau i ganolbwyntio ar yr elfen fyw, presenoldeb ac adrodd straeon.
Does dim sôn yma am blygio a chwarae; bydd angen profi ac addasu pob gosodiad i gyd-fynd â gofynion y prosiect. Ond mae hynny’n rhan o’r broses, dysgu drwy wneud, gwthio terfynau’r offer, a gweld beth sy’n addas. Y nod yw peidio â disodli presenoldeb byw ond ei ymestyn, cynnwys cynulleidfaoedd yn y gwaith mewn ffyrdd newydd, p’un ai a ydynt yn yr ystafell neu’n cysylltu o bell.
Os oes un peth i’w ddysgu o hyn, cofiwch: peidiwch ag aros am yr offer ‘cywir’ neu’r gosodiad perffaith. Dechreuwch gyda’r hyn sydd gennych eisoes, wedyn arbrofi, ac adeiladu o’r fan honno.
Ariannwyd yr ymchwil hon gan Gronfa Sbarduno Media Cymru a’i chefnogi gan PDR.