Ali Dunican
Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae Ali yn ymuno â Common Wealth gyda chefndir mewn rheolaeth gelfyddydol yn dilyn ei rôl fel Cyfarwyddwr Gweithredol cwmni theatr o Fanceinion, Quarantine, ac fel Rheolwr Cyffredinol ar gyfer y Green Room (Manceinion) a Walk the Plank (Manceinion/Salford). Cyn hynny bu’n gweithio mewn sawl rôl weinyddol gan gynnwys The Cooperative Bank ar ei ymgyrch fawr yn erbyn mwyngloddiau tir. Bu hefyd yn gweithio fel gwisgwraig ar ystod o sioeau cerdd gan gynnwys Phantom of the Opera, Les Misérables a Grease.
Mae ei phrofiad yn ymwneud â chynhyrchu theatr a chyfarfyddiadau cyhoeddus eraill, a rheoli celfyddydau gan gynnwys datblygu partneriaethau, datblygu sefydliadol, cyllid a chynhyrchu incwm, AD, datblygu polisi a chynllunio a chyflwyno strategol.
Mae ganddi radd mewn Drama a chymhwyster ôl-raddedig mewn Theatr yn y Carchar a’r Gwasanaeth Prawf, y ddau o Brifysgol Manceinion.
Mae gan Ali ddiddordeb mewn gofalu am bobl a phrosesau, cefnogi pobl eraill ac ymdrechu am degwch, ac mae’n credu yng ngrym trawsnewidiol y celfyddydau.
A hithau’n wreiddiol o Dde Llundain, mae’n byw ym Manceinion ac wrth ei bodd yn mynd â’i chi bywiog am dro, sioeau cerdd, ffuglen trosedd a bwyd da gyda theulu a ffrindiau.