Who we are

A young man at a protest wearing a hat, holding a megaphone

Fahadi

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Mae Fahadi yn ymuno â Common Wealth a National Theatre Wales fel Cyfarwyddwr Cyswllt, fel rhan o raglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood.

Yn y gorffennol, mae Fahadi wedi rhoi llais i bobl ifanc nad oedd ganddynt ffordd o rannu’r hyn sy’n bwysig iddynt. Fel cadeirydd Cyngor Ieuenctid Caerdydd, roedd yn cynrychioli pobl ifanc yng Nghaerdydd gyda’r nod o sicrhau newid ystyrlon a phendant i’r rhai mwyaf agored i niwed.

Mae ei waith wedi canolbwyntio ar wella gwasanaethau iechyd meddwl a lles i bobl ifanc drwy broses ddiwygio dan arweiniad pobl ifanc. Mae wedi datblygu cynadleddau a phrosiectau celf ar raddfa fawr ar bynciau gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol a Mis Hanes Pobl Dduon.

Fel Cyfarwyddwr Cyswllt, bydd Fahadi yn parhau â’i waith eiriolaeth. Ei uchelgais yw agor y celfyddydau, a thrwy hwyluso mannau creadigol i bobl fynegi eu hunain, mae’n gobeithio dod ag amrywiaeth i fyd y celfyddydau a’i ddefnyddio fel arf i sicrhau newid.