Who we are

Mariyah Kayat

Cynhyrchydd Cynorthwyol

Ganed Mariyah yn Bradford ac mae am wneud gwaith sy’n tynnu sylw at y dalent a’r harddwch sydd yn Bradford, ac i bobl weld sut mae’n gwneud hynny.

 

Dechreuodd Mariyah fel gwirfoddolwr ac mae wedi helpu i redeg Speaker’s Corner ar y cyd ers 2017. Mae hi wedi cymryd rhan yn WOW Bradford ac wedi cyd-redeg ymgyrchoedd. Mae Mariyah wedi bod yn rhan o Common Wealth ers 2019 fel prentis.

 

Mae Mariyah am weld mwy o bobl ifanc o Dde Asia yn ymwneud â’r sector celfyddydau. Mae hi eisiau eu gweld yn rhannu’r straeon a’r profiadau sydd wedi siapio eu gwaith. Mae Mariyah eisiau gweld theatr yn cael ei gwneud mewn ffordd wahanol i’r gwaith arferol a thraddodiadol. Mae hi eisiau gweld straeon go iawn a dwys ac sy’n caniatáu i bobl weld yr harddwch a’r dalent sydd yn ninas Bradford a’i phobl.

 

Mae Mariyah wedi cyd-gynhyrchu prosiect ffotograffiaeth ar gyfer Peaceophobia gyda Speakers Corner. Roedd y prosiect yn dangos menywod ifanc Bradford yn eu tref enedigol, yn dathlu pwy ydynt ac o ble y maent yn dod. Roedd yn caniatáu i’r menywod ifanc fod yn pwy ydynt, heb orfod cyfiawnhau eu dewisiadau.