Rachel Dawson
Swyddog Cyfathrebu
Ymunodd Rachel â Common/Wealth yng Nghaerdydd yn 2024 fel Swyddog Cyfathrebu. Mae gan Rachel ystod eang o brofiadau yn y trydydd sector. Yn fwyaf diweddar mae hi wedi bod yn gweithio ym maes ymgysylltu yn Age Cymru. Cyn hynny, bu’n gweithio gyda phobl ddigartref yn YMCA Caerdydd, personél gwasanaethau brys Mind Cymru, a goroeswyr trais domestig gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd. Yn 2012 roedd yn un o sylfaenwyr côr Songbirds Choir ar gyfer pobl LHDT+, sy’n mynd o nerth i nerth.
Cyhoeddodd Rachel ei nofel gyntaf, Neon Roses, yn 2023. Mae Neon Roses yn nofel rhamant cwiar rhywun sy’n troi’n oedolyn yng nghyfnod gwleidyddol y 1980au. Yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth i Awduron Newydd gan Lenyddiaeth Cymru, a alluogodd iddi gwblhau ei nofel, ac yn 2024 bydd yn un o’r Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli. Perfformiwyd ei drama fer gyntaf yn y Sherman fel rhan o Ŵyl Ymylol Cwiar Caerdydd 2022.