Sherrall Morris
Aelod o’r Bwrdd Seinio
Ers pan oeddwn i’n ifanc, rwyf wedi bod wrth fy modd yn creu ac yn ysgrifennu straeon, ac yn wir yn credu bod gan bawb stori i’w hadrodd. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi bod yn ymwneud â grwpiau a sefydliadau cymunedol amrywiol, gan helpu pobl o bob oed a chefndir i adrodd eu straeon unigryw eu hunain a chael pobl i wrando arnyn nhw.
Rwy’n teimlo’n angerddol am theatr ac rwy’n hoffi mynd i weld cymaint o berfformiadau â phosibl, yn enwedig gan awduron newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Rwy’n mynd i grwpiau ysgrifennu amrywiol ac yn rhedeg cylch stori o’r enw Create Zone. Rwyf hefyd yn berfformiwr ac wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer nosweithiau rhagflas a digwyddiadau amrywiol eraill. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ar syniadau newydd ac yn gwylio eginau syniadau’n tyfu ac yn ffynnu, felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o’r Seinfwrdd.