A photograph of Phil Minton's Feral chor. Lots of people stand on stage. There is an orange background

MAE PAWB YN ARTIST: Feral Choir

mwy

MAE PAWB YN ARTIST: Feral Choir

Mae Common Wealth wrth eu bodd yn croesawu prosiect anhygoel Phil Minton Feral Choir – cyfres o weithdai llais gyda phobl nad ydynt yn broffesiynol a phobl sy’n cyfaddef eu hunain nad ydynt yn gantorion, gan arwain at berfformiad awyr agored.

Bydd Phil Minton yn hwyluso gweithdy a pherfformiad deuddydd yn Nwyrain Caerdydd a fydd yn annog archwilio’r llais, gan wahodd cyfranogwyr i fentro gyda’u llais ac archwilio posibiliadau drwy ymarferion lleisiol a gwaith byrfyfyr.

Mae Feral Choir yn agored i unrhyw un (cantorion a rhai nad ydynt yn gantorion) sy’n ymhyfrydu yn y rhyddid i arbrofi ac sy’n chwilfrydig i fynegi eu hunain, gan gynnwys plant (rydyn ni’n cynghori plant 9 oed a hŷn).

Mae’r adborth gan gorau blaenorol yn cynnwys:

“Diolch am y profiad ffantastig i adael i ni fynegi ein hunain fel hyn”

“Calon newydd yn fy llais”

“Rydych chi wedi gadael i’r haul gyrraedd fy mhen”

PWY: Oedolion a phlant yn eu cwmni (9 oed+)

PRYD: Dydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Mehefin, 2023
11:00am tan 3:00pm

BLE: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ
(Ac eithrio perfformiad dydd Sul 11 Mehefin, 1:30pm – 3pm yn ymyl)

ARCHEBWCH eich lle AM DDIM drwy ddilyn y ddolen hon:
https://www.eventbrite.co.uk/e/everyone-is-an-artist-feral-choir-tickets-616977926587

MYNEDIAD: Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal dan do yn yr Hyb, gyda’r perfformiad yn digwydd mewn tanlwybr cyfagos. I drafod unrhyw ofynion o ran mynediad, cysylltwch â [email protected]

Mae Phil Minton yn dod o Torquay yn y DU. Roedd yn chwarae utgorn ac yn canu gyda Band Mike Westbrook ar ddechrau’r 60au – yna mewn bandiau dawns a roc yn Ewrop ar ddiwedd y ddegawd. Dychwelodd i Loegr yn 1971, gan ailymuno â Westbrook a bu’n rhan o lawer o’i brosiectau tan ganol y 1980au. Am y rhan fwyaf o’r deugain mlynedd diwethaf, mae Phil wedi bod yn gweithio fel canwr byrfyfyr mewn grwpiau, cerddorfeydd a sefyllfaoedd, mewn gwahanol leoliadau ledled y byd. Mae rhai cyfansoddwyr wedi ysgrifennu darnau penodol ar gyfer ei dechnegau lleisiol estynedig a’i ddulliau byrfyfyrio. Mae’n rhan o bedwarawd gyda Veryan Weston, Roger Turner a John Butcher, ac yn canu deuawdau parhaus gyda’r uchod i gyd. Mae Phil hefyd yn canu gyda nifer o gerddorion eraill gan gynnwys Audrey Chen, y mae wedi perfformio ar draws y byd gyda hi yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Ers yr wythdegau, mae Feral Choir, lle mae’n cynnal gweithdai a chyngherddau llais i unrhyw un sydd eisiau canu, wedi perfformio mewn dros ugain o wledydd. Yn fwy diweddar, mae Phil yn canu deuawdau gyda Carl Ludwig Hübsch, Guylaine Cosseron, Hugh Medcalfe a Szilard Mezei.