An image of a black person with short hair, wearing a blue sparkly suit, singing into a microphone

MAE PAWB YN ARTISTS: Creu eich llwyfan!

mwy

MAE PAWB YN ARTISTS: Creu eich llwyfan!

Mae pawb yn unigryw ac mae gan bawb rywbeth gwahanol i’w gynnig, sy’n golygu bod llwyfan bob amser yn aros i chi rannu eich cryfderau. Mae’n amser dod at ein gilydd a dechrau adeiladu sylfeini’r llwyfan rydych chi eisiau ei greu!

Gan ddefnyddio eich set sgiliau penodol, dewch i archwilio gydag Azara a dysgu sut i greu eich llwyfan, tebyg i’r un sydd ganddyn nhw.
Mae’n mynd i fod yn hwyl gwyllt, meddyliwch am symud, ysgrifennu, drag, chwerthin a dagrau… fyddech chi’n disgwyl unrhyw beth arall?!

“Mae cyfuniad ffraeth Azara o eiriau llafar a rhigolau diymdrech yn mynd â’r gynulleidfa ar noson allan sy’n eich gadael yn ysu i ddawnsio”
**** Lyndsey Winship, The Guardian

PWY: Cyfranogwyr 16+

PRYDD:Dydd Gwener 23 Mehefin 2023, 10.30am – 2.30pm

BLE: Hyb Llaneirwg, 30 Ffordd Crughywel, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0EF

ARCHEBWCH eich lle AM DDIM drwy ddilyn y ddolen hon:
https://www.eventbrite.co.uk/e/everyone-is-an-artist-creating-your-stage-tickets-616993543297

ACCESS: Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal dan do yn yr Hyb. I drafod unrhyw ofynion o ran mynediad, cysylltwch â [email protected]

Mae Azara yn artist amlddisgyblaeth sy’n hoffi rhannu gwleidyddiaeth bersonol ar rywioldeb, rhyw, hiliaeth, dosbarthiaeth a homoffobia drwy gelf fyw a ffilm gan ddefnyddio barddoniaeth, breg-ddawns a theatr. Mae hefyd yn cynnal un o’r nosweithiau cabaret mwyaf adnabyddus yn Llundain, Duckie a, The Posh Club, te prynhawn gwyllt i bobl dros 60 oed. Mae Azara wir yn mwynhau creu gwaith sy’n uno awydd am fewnddrychedd ymysg y gynulleidfa a’u hunain, ond gan roi pwyslais ar ddathlu hunaniaeth wahanol pawb.

Credyd llun: Rosie Powell