Mae Pawb yn Artist: Mae pawb yn Storïwr
Ymunwch â ni am weithdy adrodd straeon hudolus i’r teulu cyfan!
Bydd Cath Little (storïwr, canwr ac awdur o Lanrhymni) yn adrodd The Salmon Children, hanes rhyfeddod traddodiadol a hudolus afon Tredelerch.
Byddwn yn sgwrsio am y stori ac am yr afon. Bydd Cath yn helpu cyfranogwyr i greu eu straeon eu hunain, gam wrth gam, o gymeriad, i broblem, i ateb.
PWY: Cyfranogwyr o bob oed (rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn).
PRYD: Dydd Llun 9 Awst
Grŵp 1: 11am-12:30pm
Grŵp 2: 1pm-2:30pm
Perfformiad ar gyfer y ddau grŵp yn Nhe Parti’r Storïwyr: 3pm – 4pm
BLE: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ
ARCHEBWCH eich lle AM DDIM drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/everyones-a-storyteller-tickets-163849154231
MYNEDIAD: Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored neu mewn man dan do, yn dibynnu ar y tywydd. I drafod unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch â [email protected]
GOFYNION DIETEGOL / ALERGEDDAU: Rhowch wybod i Camilla os oes gennych unrhyw ofynion dietegol neu alergeddau y dylem fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer Te Parti’r Storïwyr
GWYBODAETH: Cath Little
Mae Cath yn storïwr, canwr ac awdur o Lanrhymni. Mae hi’n storïwr cynnes, diddorol, sy’n dda am wneud i’w gwrandawyr deimlo’n gartrefol. Mae’n adrodd straeon mewn ysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, cestyll, caffis a chaeau. Hi yw awdur Glamorgan Folk Tales for Children. Mae Cath yn angerddol am rannu straeon a galluogi plant ac oedolion i ddod o hyd i’w llais adrodd straeon eu hunain.
“Mae Cath yn galluogi pobl i ddod o hyd i’r creadigrwydd y tu mewn iddynt.”
GWYBODAETH: Mae Pawb yn Artist
Mae Common Wealth yn credu bod pawb yn artist. Efallai eich bod yn arfer bod yn blentyn neu’n berson ifanc yn eich arddegau creadigol iawn, ac yna wedi stopio am ba reswm bynnag neu efallai y byddwch yn meddwl neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a pherfformio yn eich amser hamdden.
Mae Pawb yn Artist – cyfres barhaus o weithdai gan Common Wealth sy’n datgloi neu’n rhyddhau rhywbeth ynom ein hunain. Mae’n ein cyflwyno i ffurfiau ac artistiaid celf newydd ac yn gwneud i ni feddwl am y potensial sydd ynom ein hunain a gobeithio yn ei dro, yn ein dinas.
Edrychwch ar ein gweithdai eraill yma: https://commonwealththeatre.co.uk/cardiff/projects/