Maeth
Weithiau mae angen ychydig o faeth ar bob un ohonom i’n helpu i deimlo’n greadigol. Dan arweiniad pobl greadigol, gyffrous a radical o Gaerdydd a thu hwnt, mae Common Wealth wedi cynllunio rhaglen o chwe sesiwn am ddim i danio eich creadigrwydd. Rydyn ni am eich helpu chi i roi cynnig ar rywbeth newydd, chwythu stêm, a datblygu eich perthynas â chi’ch hun.
Gallwn eich helpu gydag unrhyw gostau a allai eich helpu i ddod, gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd a gofal plant.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, cadwch eich lle chi ar ein tudalen Eventbrite. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau – rydyn ni eisiau i chi deimlo’n gartrefol ac yn dawel eich meddwl gyda ni.
Dal Eich Tir gyda Rhiannon White
Gweithdy creadigol i’ch helpu i ryddhau eich lleisiau, eich cyrff a’ch hyder.
Ble? Neuadd Llanrhymni
Pryd? 11 Chwefror 2025 – 12.30-2.30pm
12 Chwefror 2025 – 12.30-2.30pm
Ydych chi wedi cael llond bol ar y byd? Oes angen ychydig o amser a maeth arnoch chi? Ymunwch â ni mewn gweithdy, sy’n arbennig o addas i fenywod dosbarth gweithiol, i archwilio pwy ydyn ni, beth sydd ei angen arnom, a sut i fod yn greadigol.
Bydd Rhiannon yn defnyddio technegau theatr i’n helpu i ryddhau ein lleisiau, ein cyrff a’n hyder.
Dywedodd un o gyfranogwyr blaenorol ein gweithdy Hold Your Own ‘[ein] bod wedi creu man diogel lle ro’n i’n gallu siarad am safbwyntiau na fyddwn erioed wedi’u rhannu o’r blaen.”
Rydyn ni am i chi adael ein gweithdy yn teimlo’n llawn maeth ac yn barod am y byd go iawn!
Gwylltio Ysgrifennu gyda Rachel Dawson
Ewch yn flin ar eich tudalen!
Ble? Neuadd Llanrhymni
Pryd? 13 Chwefror – 12:30 – 2:30
O sbwriel ar ein strydoedd i hil-laddiadau ar draws y byd – mae llawer o resymau i ni fod yn flin. Mae’n amser defnyddio’r dicter hwnnw! Rydyn ni’n gofyn i chi ddod â rhestr o bethau sy’n eich gwylltio chi – a throi’r pethau hynny’n weithredoedd cadarnhaol.
Gyda chymysgedd o weithgareddau ysgrifennu a rhwydd hynt i fod yn greadigol, bydd Rachel yn cynnig awyrgylch agored a chynhwysol i rannu’r hyn sy’n eich gwylltio ac i ysgrifennu amdano.
Gobeithio y byddwch yn gadael teimlo’n ysgafnach – gyda darn o waith i fynd adref a’i fwynhau.
Archebwch ar-lein yn Eventbrite, a dywedwch wrthym os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol. Bwytewch eich cinio ymlaen llaw neu dewch ag ef gyda chi! Bydd cyfle i chi hefyd ymuno â ni yn Neuadd Llanrhymni ar 20 Chwefror, lle gallwch ddewis rhannu eich gwaith os dymunwch.
Ysgrifennu er pleser, gyda Taylor Edmonds
Sesiwn ysgrifennu i godi calon
Ble? Neuadd Llanrhymni
Pryd? 18 Chwefror – 12:30 – 2:30
Mae pleser yn air sy’n cael ei daflu o gwmpas yn aml, ond beth mae’n ei olygu i brofi a meithrin pleser i ni’n hunain? Gan ddefnyddio dulliau ysgrifennu a chreadigrwydd fel ffordd o gysylltu â’n perthynas â phleser a’i harchwilio, bydd Taylor yn eich tywys drwy awgrymiadau ysgrifennu cynnil.
Wedi’i gynllunio i annog myfyrio, ymwybyddiaeth ofalgar a chreadigrwydd, mae Ysgrifennu er Pleser yn rhoi’r adnoddau i chi gyflwyno creadigrwydd i’ch bywyd bob dydd.
Archebwch ar-lein yn Eventbrite, a dywedwch wrthym os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol. Bwytewch eich cinio ymlaen llaw neu dewch ag ef gyda chi! Bydd cyfle i chi hefyd ymuno â ni yn Neuadd Llanrhymni ar 20 Chwefror, lle gallwch ddewis rhannu eich gwaith os dymunwch.
Ioga boliog gyda Scottee!
Cyfle i ymestyn, symud a mwynhau eich corff gyda’n hartist gwadd anhygoel – Scottee!
Ble? Neuadd Llanrhymni
Pryd? 19 Chwefror 12:30 – 2:30
Mae Scottee yn wneuthurwr theatr, yn ymgyrchydd ac yn athro ioga yr ydyn ni wedi’i wahodd i Laneirwg i arwain y sesiwn hon i ni. Mae gwaith Scottee yn aml yn ymdrin â maint y corff a thewdra. Mae ei sioe ddawnsio Fat Blokes yn ymwneud â cheisio ffitio mewn byd sy’n dweud eich bod chi’n rhy dew.
Mae Scottee yn teimlo’n angerddol am wneud ioga yn hygyrch i bawb, gan helpu pobl o bob maint i symud a mwynhau eu cyrff heb gywilydd na hunanfeirniadaeth.
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn gynhwysol hon. Archebwch ar-lein yn Eventbrite, a dywedwch wrthym os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol.
Cyfarfod Llawn Maeth
Ble? Neuadd Llanrhymni
Pryd? 20 Chwefror – 12:30 – 2:30
Dewch i gwrdd â’r cymdogion! Ymunwch â ni ar ôl ein gweithdy olaf ar gyfer cyfarfod yn Neuadd Llanrhymni. Hyd yn oed os nad ydych wedi cyrraedd unrhyw un o’r gweithdai, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi! Dewch draw i ddysgu mwy am Common Wealth, cael eich ysbrydoli, a rhannu rhywfaint o fwyd am ddim.