
Matter of Britain Lansiad Llyfr
Mae Common/Wealth yn falch o groesawu’r artistiaid Crab & Bee i’n cartref yn Neuadd Llanrhymni i ddathlu cyhoeddi eu llyfr newydd, Crab & Bee’s Matter of Britain.
Mae Matter of Britain yn gasgliad o straeon gwerin a gasglwyd o’u teithiau ledled y DU, gan gynnwys ein Llaneirwg ni’n hunain. Nid straeon cyfarwydd llawysgrifau canoloesol yw’r rhain ond straeon sy’n fyw yn lleol – wedi’u clywed mewn tafarndai, eu canfod ar hysbysfyrddau pentref, a’u sibrwd drwy’r dirwedd ei hun.
Meddai Phil: ‘Mae’r rhain yn straeon rydyn ni wedi bod yn eu cario o gwmpas y lle yn ein pennau a’n cyrff, rhai ers ychydig fisoedd, rhai ers degawdau. Maen nhw’n newid bob amser, gyda darnau newydd yn cael eu hychwanegu drwy’r amser. Dyma oedd ein cyfle i’w cofnodi ar bapur, a nawr rydyn ni’n mynd i’w codi oddi ar y dudalen a’u rhoi ar daith eto.
Mae Neuadd Llanrhymni yn llawn hanesion a chwedlau – o Gapten Morgan i olion heb ben Llywelyn ein Llyw Olaf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed straeon Crab & Bee yng nghanol ein hanes cyfoethog.
Mae Common/Wealth wedi cydweithio â Crab & Bee y y gorffennol ar ein cyfres o weithdai Mae Pawb yn Artist, lle gwnaethant annog cyfranogwyr i gysylltu â thirwedd a straeon Dwyrain Caerdydd mewn ffordd newydd. Rydyn ni wrth ein boddau’n croesawu Crab & Bee yn ôl i Gaerdydd i godi gwydraid i Matter of Britain!
Ymunwch â ni! Hoffem hefyd groesawu’r holl feirdd, storïwyr a breuddwydwyr i rannu rywfaint o’u gwaith eu hunain ar y noson mewn lleoliad meic agored hamddenol ac anffurfiol.
Yr wybodaeth hollbwysig:
Dyddiad: Dydd Llun 12 Mai 6pm – 7:30pm.
Lleoliad: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ.
Mae mannau parcio ar gael, ac mae’n hawdd cyrraedd y neuadd ar fysiau 49 a 50.