The Posh Club (Nadolig)
Mae The Posh Club yn glwb perfformio a chymdeithasol hudolus i bobl hŷn (60+) sy’n cael ei gynnal yn rheolaidd ar draws Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Mae Common Wealth wedi gweithio gyda Duckie i ddod â The Posh Club i Laneirwg, Dwyrain Caerdydd fel anrheg Nadolig ysblennydd a’r perfformiad cyntaf erioed yng Nghymru!
Mae’r digwyddiad tair awr a hanner hwn yn un tafod yn y boch ‘crand’ lle bydd te prynhawn mewn arddull 1940 yn cael ei weini gyda thair sioe fyw, gweinyddion mewn teis du, hen lestri a chabaret. Mae’n ddigwyddiad mawreddog i 150 o gyfranogwyr, a gynhelir yng nghalon y gymuned yng Nghanolfan Gymunedol Llaneirwg sydd wedi’i thrawsnewid yn gain. Cafodd y gynulleidfa wahoddiad i wisgo’n smart, profi perfformiadau byw, bod gyda’i gilydd a mwynhau blas o hwyl y Nadolig.
Fideos
Tîm Creadigol
Yn cynnwys: Li Harding, Pink Suits a The Debbie Chapman Dancers
Meistr y Seremonïau: Azara
Gwesteiwyr Posh Club: Cathy Boyce, Emma Picton, Steve Fletcher, Callum Lloyd, Abbie Payton, Poppy Harwood, Ethan Price, Jude Thoburn Price, Stephanie Rees, Ellie May, Carmen Diana Almeida Eleno, Alia Ramone
Coreograffydd Cymunedol: Lara Ward
Cynhyrchydd Cymunedol: Chantal Williams
Partneriaid
A ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Duckie – theposhclub.co.uk
Wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan Duckie a Common Wealth yng Nghaerdydd
Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Teithio Moving Roots, Canolfan Gelfyddydau Battersea, drwy Garfield Weston ac Esmee Fairbain, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Gyda’n Gilydd Trowbridge a Llaneirwg.
Dyddiadau sioe
Dydd Mawrth 20 Rhagfyr
Dydd Mercher 21 Rhagfyr
Dydd Iau 22 Rhagfyr
12 hanner dydd a 3pm
Hyb Llaneirwg
Heol Crughywel
Caerdydd, CF3 0EF
Tocynnau £4 o flaen llaw a £5 ar y drws ac yn cynnwys bwyd, diod ac adloniant.
Mae tocynnau AM DDIM ar gael i’r canlynol:
– Gofalwr/gweithiwr cymorth sy’n dod gyda rhywun
– Trigolion Llaneirwg a Trowbridge
Rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw
Cod gwisg: Crand