Ymchwil a Datblygu Rent Party yn dechrau heddiw

Mae heddiw’n nodi dechrau ein hwythnos o ymchwil a datblygu ar gyfer Rent Party, cynhyrchiad a fydd yn agor yn Nwyrain Caerdydd ym mis Medi eleni. Ar ôl proses gastio wych, rydyn ni’n gweithio gyda 5 perfformiwr hynod dalentog o Dde Cymru a fydd, yr wythnos hon, yn gweithio gyda’r artist arweiniol Darren Pritchard i ddatblygu syniadau ar gyfer y sioe.

Mae Darren yn artist o Fanceinion a ddyfeisiodd y sioe wreiddiol yn seiliedig ar lymder Prydain yn yr 21ain ganrif. Cynhyrchiad y gwnewch ymgolli ynddo ac a ysbrydolwyd gan bartïon rhent Harlem Renaissance y 1920au. Mae’r sioe hon yn dathlu talent amlwg perfformwyr du, cyfunrhywiol y dosbarth gweithiol, ac yn rhoi teyrnged i’r heriau maent yn eu hwynebu bob dydd. Mae’r sioe sydd wedi’i haddasu yng Nghymru yn edrych ar hil, hunaniaeth ac iechyd meddwl fel rhai o’r themâu a welir yn y gwaith.

Bydd yr wythnos hon yn canolbwyntio ar ddatblygu’r fersiwn hwn o Rent Party i fod yn ffenestr unigryw i fywydau perfformwyr yng Nghymru. Bydd y sesiynau’n cynnwys; dyfeisio a datblygu’r sioe a’r sgript gyda Darren Pritchard a llywydd y sioe Stuart Bowden, sesiwn lleisiol gyda Beth Allen, sesiynau un-i-un gyda phob un o 5 aelod y cast, a sesiwn rannu i gloi’r wythnos.

Rent Party yw’r cynhyrchiad cyntaf i ddeillio o’n partneriaeth â Rhwydwaith Teithio Moving Roots sy’n archwilio ffyrdd o gyd-greu a mynd â pherfformiadau byw ar daith o amgylch y DU. Dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn creu tri pherfformiad byw yn Nwyrain Caerdydd.

Yn ogystal â gweithio gyda pherfformwyr lleol a Bwrdd Seinio o Ddwyrain Caerdydd i greu a llunio’r broses a llywio penderfyniadau, mae mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan. Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith hwn a gwaith yn y dyfodol, cysylltwch â [email protected]

Byddwn yn rhannu cipluniau a chyfnodau o’r broses, ac yn dangos proffiliau’r cast cyn bo hir. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymchwilio a datblygu Rent Party heddiw!