shows

Peaceophobia

mwy

Peaceophobia

Os ‘heddwch’ yw ystyr ‘Islam’, sut y gallwn ni fod ofn heddwch?

Mae Peaceophobia yn ymateb heb ymddiheuriad i Islamoffobia cynyddol ledled y byd. Gydag elfen o sioe car ac elfen o theatr, mae’r sioe yn gofyn sut ydych chi’n dod o hyd i heddwch mewn byd sy’n dweud wrthych pwy ydych chi?

A hwythau wedi cael eu magu yng nghysgod Terfysgoedd Bradford, 9/11 ac aflonyddu gan yr heddlu, mae ceir a ffydd yn noddfa, yn ddihangfa, yn fynegiant i dri dyn Moslemaidd Pacistanaidd. Ali, Sohail and Casper are taking control of the narratives around their religion, their city, and their cars.

Wedi’i lwyfannu mewn maes parcio gyda Supra, Golf a Nova clasurol, mae Peaceophobia yn dod â cheir a theatr ynghyd gyda goleuadau sinematig a sgôr sain electronig.

Mae’r sioe wedi’i chyfarwyddo gan fenywod ifanc oSpeakers Corner, cydweithfa gymdeithasol yn Bradford a chwmni theatr llwyddiannus Common Wealth. Mae’r sioe wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan y dramodydd enwog Zia Ahmed a’r Bradford Modified Club, cyd-gynhyrchiad â Fuel.

Fideos

Enwebwyd am y Cynhyrchiad Llwyfan Gorau yn y Asian Media Awards

“Mae’n brawf o ddull adrodd stori fregus, ar y cyd … darn pwerus gydag elfennau bregus, hardd” The Stage

“Heintus, grymus ac emosiynol, mae pob rhan o’r stori yn mynd â ni ychydig ymhellach i’w byd, eu hangerdd a’r ymdeimlad o anghyfiawnder” Morning Star

“Darn pwysig o theatr sy’n datgelu’r peryglon go iawn y gall camddealltwriaeth a drwgdybiaeth cymunedau eu meithrin. ” Cylchgrawn Fest Magazine

“Gwaith trawiadol, ysgytwol… ceir cyflym, dyfeisiau theatrig penigamp a churiadau trwm, mae Peaceophobia yn gwrthsefyll rhagfarn gyda straeon am hiwmor, angerdd a chred” The Skinny

“Mae’n cyflwyno neges glir ac atseiniol… Mae hefyd yn ymwneud â chyfeillgarwch a theulu, am gerddoriaeth a chwerthin, am bwysigrwydd ffydd, am sut mae addasu car yn weithred hynod greadigol, gydweithredol. Mae llawer i’w fwynhau yma” Yorkshire Post

“Mae’n gofyn i ni edrych y tu hwnt i’r injans swnllyd a’r bas rythmig o’r systemau sain i weld y bobl tu ôl i’r olwyn mewn gwirionedd” North West End

Rhaglen Ddigidol

Llwythwch y Rhaglen Ddigidol Peaceophobia i lawr i ddysgu mwy am y sioe, y cast, y tîm a cheir!

Dyddiadau’r Daith

Ar y ffordd i Glasgow!

Byddwn yn Glasgow rhwng 14-17 Mehefin ym Maes Parcio Candleriggs. Archebwch eich tocynnau drwy Tramway

Tîm Creadigol

Perfformio– Mohammad Ali Yunis, Casper Ahmed, a Sohail Hussainn

Ysgrifennu Zia Ahmed gyda Mohammad Ali Yunis, Casper Ahmed, and Sohail Hussain

Cyfarwyddo Evie Manning, Iram Rehman, Sajidah Shabir, Rosema Nawaz, Mariyah Kayat, Madeyah Khan and Maleehah Hussain

Dylunydd – Rosie Elnile

Dylunydd Sain a Chyfansoddwr – Wojtek Rusin