No Guts, No Heart, No Glory
Mae No Guts, No Heart, No Glory yn seiliedig ar gyfweliadau â bocswyr benywaidd Moslemaidd gan gynnwys dau Bencampwr Moslemaidd Cenedlaethol benywaidd yn Bradford, Saira Tabasum a’r hyfforddwr, Ambreen Sadiq. Daeth ein cast ifanc drwy broses glyweliad yn ysgolion Bradford, doedd y rhan fwyaf erioed wedi perfformio o flaen cynulleidfa cyn i ni fynd i ŵyl Caeredin yn 2014. Ers hynny mae’r ddrama wedi ennill Gwobr Scotsman Fringe First, wedi teithio o amgylch y DU ac yn rhyngwladol.
Roedd y cast o bump wedi llunio’r ddrama yn seiliedig ar eu profiadau a’u safbwyntiau eu hunain, a’r hyn oedd yn teimlo’n iawn, yr hyn yr oeddem i gyd eisiau ei ddweud. Yn ystod ein hymarferion, dechreuodd Israel dramgwyddo yn Gaza, dechreuodd rhai o’r actorion fynd i brotestiadau. Roedd yr argyfwng yn Gaza yn nodyn llwm i’n hatgoffa wrth i ni wneud y ddrama bod angen i ni fod yn ddewr yn ein bywydau ein hunain a bod yn ddewr ar lefel ryngwladol ehangach, y dylem ymfalchïo yn ein sefyllfa a phwy ydym ni. Dechreuodd y ddrama deimlo’n debycach i ddrama brotest, nid drama lle’r ydym yn dweud ‘na’, ond yn un lle’r ydym yn dweud ‘ie’. Nid yw menywod ifanc Moslemaidd yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau yn aml, felly mae No Guts, No Heart, No Glory yn gyfle i fenywod ifanc Moslemaidd gynrychioli eu hunain, dawnsio, bocsio, rhegi, bod yn flin, mwynhau, bod yn bencampwyr.
Fideos
Adolygiadau
“Llawn chwys, rhegfeydd a phosibiliadau pur bywyd” The Guardian
Pwerus a buddugoliaethus … dathliad o’r ewyllys dynol sy’n pontio crefydd a rhyw The Independent
“Drama anorchfygol am gryfder, dewrder a’r penderfyniad i sefyll dros bwy ydych chi mewn byd sy’n gynyddol wallgof.” Herald
“Profiad theatrig i’w gofio; cignoeth, o’r galon, llawn egni ac weithiau’n hollol hardd” The Scotsman
Erthyglau a’r Wasg
‘Bocswyr benywaidd Moslemaidd Bradford yn mynd i mewn i’r cylch’ Guardian G2, 12fed Awst 2014
‘Mae brwydro yn erbyn eithafiaeth yn frwydr i bawb’, Joyce McMillan, Scotsman
‘Nid dim ond i fechgyn’: Menywod Moslemaidd yn mynd â drama newydd am focsio benywaidd i Ŵyl Ymylol Caeredin,’ Independent
‘Mae menywod yn sgwario i oresgyn y stereoteipiau yn y cylch,’ The Herald
Sioe Bocsio Benywaidd Mwslimaidd yn mynd ar daith i Wŷl Ymylol Caeredin’, Scotland on Sunday, 6ted Gorfennaf 2014
Cyfweliad Person Cyntaf: Ambreen Sadiq, Financial Times, 3rd August 2013
Bocswyr Benywaidd yn camu ar y llwyfan, Asian Express, October 2013
Dewis o’r Fringe
Radio Times: Dau beth i’w gweld yng Nghaeredin
Scotsman: Top 10 pick of the Fringe
The Times: Top 10 Theatre to see at Edinburgh Fringe
Fideos
BBC LOOK NORTH: Cyfweliad ag Ambreen Sadiq, Evie Manning ac actorion Radio
Radio
Women’s Hour BBC Radio 4: Cyfweliad ag Ambreen Sadiq ac Aisha Zia
Radio 4, Sunday: Cyfweliad ag Aisha Zia
Dyddiadau
Cafodd No Guts, No Heart, No Gloryei ddangos yn fyw ar BBC4 ddydd Sul 15fedTachwedd 2015.
Teithiodd No Guts, No Heart, No Glory i Sandy’s Gym, Caeredin (2014), Academi Bocsio Heddlu Bradford (2014), Campfa Bocsio Gwasanaeth Tân Moss Side ym Manceinion (2014), Birmingham Rep (2015) Canolfan Southbank fel rhan o ŵyl Menywod y Byd (2015) Helsinki fel rhan o ŵyl URB Kiasma (2016) a Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Perth yn Awstralia (2016)
Rhestr gydnabod
Lluniau gan Christopher Nunn a Sophie Gerrard
Wedi’i gyd-gynhyrchu gan Contact ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Llywodraeth yr Alban, Partneriaeth Cymdogaeth (Portobello a Craigmillar), Foundation Scotland, Theatre in the Mill, Cyngor Bradford a Contact.