Mae Pawb yn Artist: Gweithdy Tŷ Esgidiau
Gweithdy hudolus, creadigol i deuluoedd sy’n adeiladu byd creadigol i’w archwilio a chysgodi ynddo.
‘There was an old woman who lived in a shoe, she had so many children she didn’t know what to do!’
Dewch i adeiladu eich tŷ esgidiau eich hun i gysgodi ynddo gyda’r artist Kath Ashill a Common Wealth.
Byddwn yn defnyddio deunyddiau crefft hwyliog a syml i adeiladu tai esgidiau lliwgar. Byddwn yn eistedd ac yn sgwrsio yn ein tai esgidiau gorffenedig ac yn trafod yr hen fenyw dlawd a oedd yn byw mewn esgid ac argyfwng tai’r DU.
PWY: Teuluoedd o bob oed (rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn).
PRYD: Dydd Mawrth 10 Awst, 11am-12:30pm
BLE: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ
ARCHEBWCH eich lle AM DDIM drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/shoe-house-workshop-tickets-164003205001
MYNEDIAD: Gweithdy ymarferol yw hwn sy’n defnyddio deunyddiau fel cardbord, siswrn, glud a thâp gludiog. Bydd yn digwydd yn yr awyr agored neu mewn man dan do, yn dibynnu ar y tywydd. I drafod unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch â [email protected]
GWYBODAETH: Kath Ashill
Mae perfformiad byw, fideo a gosodiad yn cyflwyno fy mhrofiadau personol o fyw fel aelod o’r dosbarth gweithiol. Mae’r gwrthdaro o ran diwylliant rhwng fy nghefndir a’m harfer artistig yn rhan o’r naratifau digyswllt yn fy ngwaith. Rwy’n mynd ar drywydd theatr bob dydd wrth rannu darnau o hunangofiant, arsylwadau ar bobl, hanes a safle. Mae’r defnydd rheolaidd o ddrag yn fy ngwaith yn agor deialog am hanes brenin y drag mewn perfformiad cyfoes, yn ogystal â hwyluso’r gwaith o archwilio fy hunaniaeth o ran rhywedd.
Rwyf wedi gwneud gwaith sy’n canolbwyntio ar bortread Cliff Richard yn 1996 o ‘Heathcliff’ Wuthering Heights; cotiau coch/pen-gliniau ceinciog a chelf perfformio Butlins; hanes y prif fachgen mewn Pantomeim; seiciatreg; Cylchgrawn Take a Break; ffisigwyr meddyginiaethol; atchweliad a chath a laddodd rywun mewn bywyd o’r blaen. Mae fflatiau theatr a DIY esthetig o ddramâu amatur yn cyfleu materoldeb y themâu hyn.
GWYBODAETH: Mae Pawb yn Artist
Mae Common Wealth yn credu bod pawb yn artist. Efallai eich bod yn arfer bod yn blentyn neu’n berson ifanc yn eich arddegau creadigol iawn, ac yna wedi stopio am ba reswm bynnag neu efallai y byddwch yn meddwl neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a pherfformio yn eich amser hamdden.
Mae Pawb yn Artist – cyfres barhaus o weithdai gan Common Wealth sy’n datgloi neu’n rhyddhau rhywbeth ynom ein hunain. Mae’n ein cyflwyno i ffurfiau ac artistiaid celf newydd ac yn gwneud i ni feddwl am y potensial sydd ynom ein hunain a gobeithio yn ei dro, yn ein dinas.
Edrychwch ar ein gweithdai eraill yma: https://commonwealththeatre.co.uk/cardiff/projects/