Mae dyn ifanc yn hedfan fel archarwr mewn castell bownsio

Ysgol Haf Grime Radical

mwy

Ysgol Haf Grime Radical

Ydych chi’n 11 i -16 oed. Oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth grime, gwneud celf, perfformio’n fyw a newid y byd?

Mae Common Wealth a No Hats No Hoods yn cydweithio ar Ysgol Haf Grime Radical ar gyfer pobl ifanc 11-16 oed. Byddwn yn gweithio gydag artistiaid grime, gwneuthurwyr theatr, cynhyrchwyr cerddoriaeth a meistri tik tok i greu cyfres o chwe gweithdy AM DDIM i rannu sgiliau, technegau ac arbrofi gyda gwahanol arddulliau perfformio.

Rydym yn cael ein hysbrydoli gan natur greadigol grime, fe wnaethom ddysgu ni ein hunain sut i wneud cerddoriaeth a theatr ac rydyn ni eisiau rhannu hynny â chi! Mae ein Hysgol Haf ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, perfformio byw, symud ac ysgrifennu – ar gyfer pobl ifanc sydd ar dân eisiau dweud rhywbeth am y byd nad ydynt efallai wedi cael mynediad at hyfforddiant, pobl sydd wedi dysgu eu hunain ac sy’n barod i berfformio.

PRYD:
Wythnos 1: Awst 13, 14, 15
Wythnos 2: Awst 20, 21, 22*

Mae pob diwrnod yn rhedeg o 11am- 5pm
* Dydd Sul 22 Awst fydd y diwrnod perfformio.
Amseroedd i’w cadarnhau – bydd ffrindiau a theulu yn cael gwahoddiad!

BLE:
Clwb Ieuenctid, Canolfan Llaneirwg, Caerdydd CF3 0EF

ARCHEBWCH eich lle AM DDIM NAWR drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/radical-grime-summer-school-tickets-163843768121

No Hats No Hoods logo

Logo gwasanaeth ieuenctid Caerdydd

Fideos

Cwestiynau Cyffredin

“Alla i ddim bod yn bresennol ar bob un o’r diwrnodau, ydw i’n cael dod beth bynnag?”
Rydyn ni eisiau i bawb fod mewn cynifer o sesiynau â phosibl. Mae’n rhaid i chi allu dod i o leiaf 2 ddiwrnod bob wythnos i gymryd rhan.
Mae’n rhaid i chi allu dod i o leiaf 2 ddiwrnod bob wythnos i gymryd rhan.

“Dydi Grime ddim i mi – ydw i’n cael dod beth bynnag?”
Grime yw ein man cychwyn – ein hysbrydoliaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth, perfformio, symud neu ysgrifennu – mae hyn ar eich cyfer CHI.

“Oes rhaid i mi fod yn aelod o Glwb Ieuenctid Llaneirwg?”
Nac oes – rydyn ni’n croesawu pobl ifanc o bob rhan o dde Cymru.