Gweithdy Mark Storor

mwy

Gweithdy Mark Storor

Roedd Common Wealth yn falch iawn o groesawu Mark Storor i ddwyrain Caerdydd.

Mae Mark Storor yn artist sydd wedi ennill gwobrau a chanddo brofiad cyfoethog ac amrywiol mewn celfyddydau gweledol a pherfformiad byw. Mae ei waith yn cael ei ddyfeisio, yn aml yn benodol i safle ac yn gydweithredol bob amser. Ymunodd Mark â ni i arwain gweithdy creadigol a fyddai’n brofiad darganfod i bawb dan sylw, gan ddefnyddio ei brofiad helaeth o arferion theatr a chelf fyw.

Roedd gweithdy Mark ar agor i bawb 10 oed neu hŷn.

 

Mwy am Mark!

Fel artist sy’n cael ei werthfawrogi’n rhyngwladol, mae gan Mark Storor brofiad helaeth o gydweithio â chymunedau, sefydliadau, ysgolion, ysbytai a charchardai. Mae ei waith yn berthnasol i’r gofod unigryw rhwng theatr a chelf fyw, gan arbenigo mewn codi a chynnig llwyfan i’r lleisiau nad ydym bob amser yn craffu i’w clywed. Mae Mark Storor wedi cael ei ddisgrifio yn y wasg Brydeinig fel ‘gwneuthurwr theatr gwirioneddol weledigaethol,’ ‘alcemydd,’ ac ‘un o’r lleisiau mwyaf nodedig yn theatr Prydain’.