Llanrumney-isms
Beth hoffech chi ddweud wrth rywun sy’n byw yn Llanrhymni?
Oes gennych chi unrhyw ymadroddion neu eiriau unigryw o ddoethineb rydych chi am eu rhannu? Pa eiriau fyddai’n lledaenu teimlad da?
Wedi’i ysbrydoli gan y sioe ddiweddar Epic Fail yn Ysgol Gynradd Glan-Yr-Afon, bydd Llarumney-ismsyn ystyried sut mae ein geiriau yn cael effaith, a sut mae bod yn onest a dweud pethau’n uchel yn gallu newid y byd rywsut.
Mae Llanrumneyisms yn rhan o Haf o Hwyl 2022, sy’n ceisio cefnogi cenedlaethau Caerdydd i’r dyfodol gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ystod gwyliau’r haf.
Dyddyadau:
Yn y gweithdy rhad ac am ddim hwn, byddwn yn mynd i’r afael â’r mathau o bethau cadarnhaol yr hoffem eu dweud yn uchel, gan archwilio map o Lanrhymni i benderfynu ble y dylem rannu ein geiriau rhyfeddol o ddoethineb. Byddwn yn cynnig cyfle i wneud ychydig o arlunio, ysgrifennu ac archwilio, neu dim ond eistedd a chael paned a sgwrs gyda ni!
Nod y gweithdy yw helpu i greu gosodwaith celf a fydd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus ar draws Llanrhymni, gan ymgorffori geiriau go iawn pobl go iawn.
Addas i bobl ifanc 7-12 oed (croeso i rieni/rhai sy’n rhoi gofal)
Dydd Sadwrn 17 Medi 2022
11am-1pm
Ystafell Morgan, Newuadd Llanrhymni, Ball Road, CF3 4JJ
Cadwch eich lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/llanrumney-isms-tickets-414756727537
Os na allwch ddod i’r gweithdy hwn:
Yna byddem wrth ein bodd petaech yn ein helpu mewn ffyrdd eraill…
– A fyddech chi’n awyddus i gael darn o gelf yn eich ffenestr – efallai wedi’i nythu mewn coeden yn eich gardd neu’n sefyll yn falch ar eich ffens?
– Ydych chi’n adnabod rhywun sydd â mynediad i leoliad ardderchog ar gyfer y gwaith celf hwn – siop, bwyty neu gaffi efallai?
– Allech chi ein helpu i roi’r gair ar led yn y gymuned?
– Oes gennych chi eich Llanrhymni-isms eich hun yr hoffech eu rhannu â ni?
Yna cysylltwch â ni drwy: [email protected] gyda “Llanrumney-ism” yn eich llinell bwnc.
Tîm Creadigol
Prif Artist – Justin Teddy Cliffe
Artistiaid sy’n cydweithio – Kirsty Harris & Sophie Lindsey
Cynhyrchydd – Charlotte Lewis
Partneriaid
Mae Llanrumneyisms yn rhan o Haf o Hwyl 2022, sy’n ceisio cefnogi cenedlaethau Caerdydd i’r dyfodol gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ystod gwyliau’r haf.
Gyda chefnogaeth gan y Rhwydwaith Teithio Moving Roots, dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Battersea gyda chyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Garfield Weston a Chyngor Celfyddydau Cymru.