shows

A distorted image of a woman shouting into a microphone with a man dancing behind her

Demand The Impossible

mwy

Demand The Impossible

Beth pe baem yn dweud wrthych chi ein bod ni’n adnabod pobl sy’n meiddio dychmygu rhywbeth gwahanol? Maen nhw wedi gwrthwynebu’r drefn, wedi sefyll dros yr hyn sy’n iawn, ac wedi mynnu’r amhosibl. 

Beth pe baem yn dweud wrthych chi eu bod wedi byw eu hoes yn brwydro eu hachos? Ymgyrchu dros gyfiawnder, rhwystro ffyrdd, atal awyrennau, atal bom, newid cyfraith, achub bywyd. 

Beth pe baem yn dweud wrthych fod eu ffrindiau a’u cariadon yn ysbïo arnyn nhw? Bwyta wrth eu byrddau, cysgu yn eu gwelyau, a dawnsio gyda nhw mewn rêfs. Y cyfan wedi’i drefnu, ei gymeradwyo a’i dalu gan y wladwriaeth? 

Beth pe baem yn dweud wrthych chi fod gweithwyr adeiladu wedi cael eu hatal rhag gweithio oherwydd eu bod nhw ar gosbrestr ar ôl i heddlu cudd eu cyflwyno i’r penaethiaid?

Beth pe baem yn dweud wrthych fod yr heddlu wedi ysbïo ar ymgyrchoedd cyfiawnder hiliol? Yn gwylio teuluoedd sy’n galaru am eu plant sydd wedi’u llofruddio. 

Ydych chi erioed wedi gorfod cwestiynu pwy ydych chi?

Mae Demand the Impossible yn gyfuniad o berfformiadau, cerddoriaeth bync, a phrofiadau synhwyraidd, ac yn archwilio anghyfiawnder yn yr heddlu a threiddiad cudd rhwydweithiau ymgyrchwyr. Mae’n ein herio i gwestiynu gwirionedd, ymddiriedaeth a phŵer, wrth i berthnasoedd anghyfforddus rhwng y wladwriaeth, yr heddlu a dinasyddion gael eu datgelu. 

Fyddwn ni byth yn gwybod sut byddai ein byd wedi edrych pe byddem ni wedi cael caniatâd i’w newid.

Fyddwn ni byth yn gwybod sut byddai ein bywydau pe baem wedi gallu ymddiried yn llwyr yn y system.

Ond un peth rydyn ni’n ei wybod yw eu bod nhw’n ein targedu oherwydd ein bod ni’n gryf, nid oherwydd ein bod ni’n wan, a’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn yw parhau i fynnu’r amhosibl.

Bydd Demand the Impossible yn cael ei pherfformio yn y Gyfnewidfa Ŷd, Casnewydd, rhwng 6 ac 13 Hydref 2025. TOCYNNAU AR GAEL NAWR! 

Mae’r gwaith o ddatblygu’r cynhyrchiad wedi cynnwys cydweithio’n agos ag Undercover Research Network, Police Spies Out of Lives, a’r podlediad Spycops Info Podcast.

Ein Cydweithwyr

Podlediad Spycops Info

Mae’r podlediad Spycops Info yn gyfres sy’n ymchwilio’n fanwl i bob agwedd ar ymdreiddiad grwpiau ymgyrchu gan y Sgwad Gwrthdystiadau Arbennig, yr Uned Cudd-wybodaeth Trefn Gyhoeddus Genedlaethol ac unedau plismona gwleidyddol cysylltiedig. 

Dywedodd Tom Fowler, cyflwynydd podlediad Spycops Info: “Mae defnyddio heddlu gwleidyddol cudd wedi cael effaith anfesuradwy ar y rhai y bu’r heddlu yn ysbïo arnyn nhw, ond mae hefyd wedi arwain at ganlyniadau sylweddol i gymdeithas yn gyffredinol. 

“Mae’n anodd cyfleu goblygiadau tanseilio, ansefydlogi a gwyrdroi pob mudiad cymdeithasol blaengar dros 50 mlynedd. Mae wedi arwain at wreiddio eithafiaeth yng nghalon gwleidyddiaeth y DU, gan godi ofn na fydd dyfodol gwell.”

Undercover Research Group

Ffurfiwyd yr Undercover Research Group yn sgil sgandal #spycops yn 2013. Dechreuodd drwy gefnogi’r ymgyrchwyr hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y prosesau gwyliadwriaeth a bu’n gweithio i ddadansoddi’r dystiolaeth dameidiog a chyfyngedig a oedd ar gael i’r cyhoedd cyn i’r Ymchwiliad i Blismona Cudd ddechrau. Nawr, gyda miloedd o ddogfennau a channoedd o oriau o dystiolaeth ar gael, mae’n gweithio i helpu ymgyrchwyr yn yr ymchwiliad i gasglu a chrynhoi’r wybodaeth enfawr a digynsail hon sy’n nodi manylion  gweithrediadau’r wladwriaeth wyliadwriaeth.

Ychwanegodd Chris Brian o Undercover Research Group, “Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r prosiect hwn – ac rwy’n gwybod y bydd Common/Wealth yn gwneud cyfiawnder â’r anghyfiawnder mawr hwn ac yn ei gyflwyno i gynulleidfa newydd mewn ffordd graff, arloesol a chyffrous.”

Police Spies Out of Lives

Mae Police Spies Out of Lives (PSOOL) yn grŵp cymorth ymgyrchu sy’n gweithio i roi terfyn ar gam-drin rhywiol a seicolegol a gyflawnir gan swyddogion cudd yr heddlu. Menywod ydyn ni sydd wedi cael ein twyllo i berthnasoedd rhywiol agos â swyddogion cudd yr heddlu, lle’r oedd llawer ohonynt yn sleifio i grwpiau ymgyrchu amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol. Rydyn ni’n cefnogi’r camau cyfreithiol, a’r cyfraniadau at yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Blismona Cudd gan fenywod sydd wedi dioddef yn sgil plismona cudd camdriniol. Rydyn ni’n gweithio i ddatgelu arferion anfoesol a misogynistaidd plismona cudd, a’r rhagfarnau sefydliadol sydd wedi arwain at y cam-drin.

Rhestr gydnabod

Mae Demand the Impossible yn berfformiad promenâd, lle mae cyffro i’w weld ar draws prif ofod y Gyfnewidfa Ŷd.

Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys synau a cherddoriaeth uchel, goleuadau’n fflachio, tafluniadau o ddelweddau llonydd a symudol a chynnwys sy’n cyfeirio at drais, cam-drin domestig a hiliaeth.

Bydd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa’n sefyll. Bydd rhywfaint o seddi ar gael. Bydd lle diogel dynodedig ar gyfer pobl nad ydyn nhw eisiau bod yng nghanol y sioe, sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Bydd teithiau cyffwrdd ar gael mewn perfformiadau dethol (ac ar gais), gan alluogi pobl i archwilio’r gofod perfformio, y set a’r propiau cyn y sioe.

Mewn perfformiadau dethol bydd Common/Wealth hefyd yn cynnig gwasanaeth disgrifiad sain i aelodau’r gynulleidfa sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.

Bydd testun/capsiynau byw ar gael mewn perfformiadau dethol. Os oes angen cyfaill, gofalwr neu gynorthwyydd personol arnoch i ddod gyda chi – cysylltwch â y Corn Exchange i drefnu tocyn am ddim iddyn nhw. Cysylltwch hefyd os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill sy’n ymwneud â mynediad.

Archebion grŵp – Mae Common/Wealth yn awyddus i gefnogi ysgolion/colegau/prifysgolion a grwpiau cymunedol i ddod. Cysylltwch â Chantal Williams, y Cynhyrchydd Cymunedol [email protected] i gael gwybodaeth am docynnau rhatach a sut y gallwn gefnogi eich ymweliad.

Rhestr gydnabod

Cwmni Creadigol:

Cyfarwyddwr: Rhiannon White

Technolegydd Creadigol a Pherfformiwr: Nathaniel Mason

Coreograffydd: Gareth Chambers

Testun gan: Taylor Edmonds

Dramaturgy: Sarah Fielding

Dylunio Gweledol: Studio of Mark Gubb

Ddylunydd Goleuo: Andy Purves

Perfformwyr ac Artistiaid: Bianca Ali, Hussina Raja, Soul Roberts

Cyfansoddi a cherddoriaeth fyw: Ollie Emanuel, Ruari Floyd, Jassen Summogum

Dylunio gwisgoedd a phropiau: Efa Dyfan

Rheolwr Cynhyrchiad: Nia Thomson

Cynhyrchydd Creadigol: Camilla Brueton

Cynhyrchydd Cymunedol: Chantal Williams

Swyddog Cyfathrebu: Rachel Dawson

Cydlynydd Cymunedol: Eugenia Taylor

Cynhyrchydd cynorthwyol: Sophie Lindsey

Cynghorwyr Ymgyrchwyr:

Tom Fowler – Podlediad Spycops Info

Chris Brian – Undercover Research Group

Police Spies Out of Lives

Steve Barley – Blacklist Support Group

Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Immersive Arts, Esmee Fairbairn a Sefydliad John Ellerman, cefnogir gan Ganolfan Mileniwm Cymru, a gefnogwyd yn flaenorol gan National Theatre Wales.