
Demand The Impossible
Beth pe baem yn dweud wrthych chi ein bod ni’n adnabod pobl sy’n meiddio dychmygu rhywbeth gwahanol? Maen nhw wedi gwrthwynebu’r drefn, wedi sefyll dros yr hyn sy’n iawn, ac wedi mynnu’r amhosibl.
Beth pe baem yn dweud wrthych chi eu bod wedi byw eu hoes yn brwydro eu hachos? Ymgyrchu dros gyfiawnder, rhwystro ffyrdd, atal awyrennau, atal bom, newid cyfraith, achub bywyd.
Beth pe baem yn dweud wrthych fod eu ffrindiau a’u cariadon yn ysbïo arnyn nhw? Bwyta wrth eu byrddau, cysgu yn eu gwelyau, a dawnsio gyda nhw mewn rêfs. Y cyfan wedi’i drefnu, ei gymeradwyo a’i dalu gan y wladwriaeth?
Beth pe baem yn dweud wrthych chi fod gweithwyr adeiladu wedi cael eu hatal rhag gweithio oherwydd eu bod nhw ar gosbrestr ar ôl i heddlu cudd eu cyflwyno i’r penaethiaid?
Beth pe baem yn dweud wrthych fod yr heddlu wedi ysbïo ar ymgyrchoedd cyfiawnder hiliol? Yn gwylio teuluoedd sy’n galaru am eu plant sydd wedi’u llofruddio.
Ydych chi erioed wedi gorfod cwestiynu pwy ydych chi?
Mae Demand the Impossible yn gyfuniad o berfformiadau, cerddoriaeth bync, a phrofiadau synhwyraidd, ac yn archwilio anghyfiawnder yn yr heddlu a threiddiad cudd rhwydweithiau ymgyrchwyr. Mae’n ein herio i gwestiynu gwirionedd, ymddiriedaeth a phŵer, wrth i berthnasoedd anghyfforddus rhwng y wladwriaeth, yr heddlu a dinasyddion gael eu datgelu.
Fyddwn ni byth yn gwybod sut byddai ein byd wedi edrych pe byddem ni wedi cael caniatâd i’w newid.
Fyddwn ni byth yn gwybod sut byddai ein bywydau pe baem wedi gallu ymddiried yn llwyr yn y system.
Ond un peth rydyn ni’n ei wybod yw eu bod nhw’n ein targedu oherwydd ein bod ni’n gryf, nid oherwydd ein bod ni’n wan, a’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn yw parhau i fynnu’r amhosibl.
Bydd Demand the Impossible yn cael ei pherfformio yn y Gyfnewidfa Ŷd, Casnewydd, rhwng 6 ac 13 Hydref 2025. Bydd y tocynnau ar werth yn fuan!
Mae’r gwaith o ddatblygu’r cynhyrchiad wedi cynnwys cydweithio’n agos ag Undercover Research Network, Police Spies Out of Lives, a’r podlediad Spycops Info Podcast, mewn cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru, gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru.