Sut Mae Adeiladu Tref
Beth pe gallech chi adeiladu dyfodol ein cymdogaeth?
Bydd Sut mae Adeiladu Tref yn edrych ar yr hyn sydd angen ei newid a sut y gall cymunedau fod yn ganolog i lunio’r lleoedd rydyn ni’n byw ynddyn nhw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o sgwrs ar sail perfformiad a fydd yn dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau yng Nghaerdydd. Bydd eich llais yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael effaith ar ddyfodol Llaneirwg.
Bydd Sut Mae Adeiladu Tref yn dod â thrigolion, pobl sy’n gweithio yn yr ardal, y cyngor, a llunwyr penderfyniadau eraill at ei gilydd, i archwilio’r newid sydd angen ei wneud ac anghenion y gymuned yn y dyfodol.
Bydd yn cynnwys sgyrsiau, cyd-fwyta, a rhannu ymsonau a barddoniaeth a grëwyd o dystiolaethau pobl Llaneirwg, a ysgrifennwyd gan Patrick Jones.
PRYD – Dydd Sadwrn 21 Medi rhwng 6pm ac 8pm
BLE – Hyb a Llyfrgell Llaneirwg, 30 Heol Crughywel, Llaneirwg, CF3 0EF.
Fe fyddwn ni’n darparu bwyd am ddim! Dewch i fwyta gyda’ch cymdogion a siarad am yr hyn sy’n bwysig i chi.
Mae’r digwyddiad am ddim! Ewch i’n gwefan i gael dolen EventBrite i archebu. Neu cysylltwch â Chantal Williams ar [email protected] neu 07983883313.
Mae Sut i Adeiladu Tref yn rhan o brosiect sy’n edrych ar Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Dinas Caerdydd. Rydym yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, ACE, Pafiliwn Grange a Gwirfoddolwyr Sblot i adeiladu ar a sicrhau cynrychiolaeth yn CDLl Arc y De.