
Yn Gyffredin
Gweithred gymunedol.
Coginio.
Cynulliad cyfoedion.
Perfformiad newydd gan Common/Wealth.
Digwyddiad cynnar i rannu syniadau rhwng cydweithwyr a pherfformwyr Perfformiad ar y Cyd Common/Wealth. Rydyn ni’n byw ar ein pennau ein hunain, rydyn ni’n siarad sawl iaith, rydyn ni’n od, mae gennym brofiad o beidio â chael ein cynnwys yn y system, rydyn ni’n trwsio pethau.
Ymunwch â ni i weld beth sydd gan bob un ohonom yn gyffredin. Yn ystod y perfformiad hwn byddwn yn dawnsio, yn bwyta gyda’n gilydd, yn myfyrio ar y pethau da a’r pethau drwg, ac yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion i heriau personol a gwleidyddol. Byddwn yn dysgu, yn trafod, yn cynghori ac yn mynnu – o’n safbwynt ni ein hunain ac eraill.
Mae hwn yn weithgaredd ymchwil a datblygu ar gyfer perfformiad awyr agored newydd sydd wedi’i gynllunio i gael ei gynnal mewn cymunedau a chyda nhw ar strydoedd preswyl.