The Posh Club
Mae The Posh Club yn de prynhawn mawreddog ac yn gyfle i henoed hynaws ardal Llaneirwg ddawnsio a chymdeithasu. Ac yntau’n glwb cymdeithasol i bobl hŷn (60+), caiff ei gynnal yn rheolaidd ar draws Llundain a De-ddwyrain Lloegr a bellach yng Nghymru.
Mae Common/Wealth a Duckie yn dod â The Posh Club i Gaerdydd ar gyfer pedwar digwyddiad, i ddathlu’r Pedwar Tymor:
Gwanwyn * Haf * Hydref * Gaeaf
Mae’r rhain yn ddigwyddiadau mawreddog i 150 o gyfranogwyr, a gynhelir yng nghalon y gymuned yn Hyb Cymunedol Llaneirwg sydd wedi’i drawsnewid yn gain. Digwyddiad tafod yn y boch ‘crand’ lle bydd te prynhawn mewn arddull 1940 yn cael ei weini gyda thair sioe fyw, gweinyddion mewn tei du, hen lestri a chabaret.