SGYRSIAU

Mae Common Wealth ac aelodau o Speakers Corner wedi siarad mewn digwyddiadau ledled y DU. Rydyn ni ar gael ar gyfer sgyrsiau, digwyddiadau pryfocio a thrafodaethau panel. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi bod yn rhan o drafodaethau am theatr sy’n benodol i safle, theatr wleidyddol a radical, arferion cymdeithasol, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol, democratiaeth ddiwylliannol, ffurf arbrofol a rôl artistiaid gwleidyddol. Rydyn ni wrth ein bodd yn cael ein herio, yn cynnal dadl ac yn creu pryfociadau newydd a fydd yn gwthio ffiniau theatr a gwleidyddiaeth.

Mae Common Wealth a Speakers Corner wedi ymddangos yn y digwyddiadau a’r lleoedd canlynol;

Cynhadledd No Boundaries, Common Ground yn y Lowry, Gulbenkian – Cynhadledd Rôl Ddinesig i Sefydliadau Celfyddydol, Wild Conference, cynhadledd ABO, Ail-ddychmygu democratiaeth leol gydag Open Democracy, Gŵyl The World Transformed Prifysgol Manceinion, Prifysgol Caerefrog, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan Gelfyddydau Battersea, Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Arnolfini, Clore Fellowship a Theatr Genedlaethol Cymru.