Dewch i gwrdd â’n Cyd-Gadeiryddion newydd

Rydyn ni’n falch iawn o ddweud bod dau gyd-gadeirydd newydd yn ymuno â ni, Amy Letman ac Emma Robinson:

A photograph of a white woman with long brown hair, wearing a blue shirt

Amy Letman: Dwi mor falch o gael cyfle i gydweithio ag Emma Robinson fel Cyd-gadeiryddion newydd Theatr Common Wealth. Mae’n fraint bod y Cadeirydd sy’n gadael, Lisa Mallaghan, a’r Dirprwy Gadeirydd, Jenny Hughes, yn trosglwyddo’r awenau i ni. Mae’r ddwy ohonynt wedi dod â chymaint o arbenigedd, gofal ac angerdd i’r cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fel Cyfarwyddwyr Artistig, mae Evie a Rhiannon yn hwyluswyr ac arweinwyr cwbl arbennig, wedi ymrwymo’n ddwfn i’w cymunedau lleol ac i greu dyfodol theatr. Allwn i ddim peidio â manteisio ar y cyfle i weithio gydag Evie a Rhiannon, y bwrdd bywiog a phrofiadol, a’r cymunedau ehangach o artistiaid a chydweithwyr ledled Caerdydd a Bradford sydd mor sylfaenol i Common Wealth. Alla i ddim aros i fod yn rhan o bennod nesaf y daith ryfeddol hon

A white woman with short white hair, on a beach.

Emma Robinson: Dwi’n edrych ymlaen at ymuno â’r tîm yn y rôl Cyd-gadeirydd newydd hon. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’m cyd-gadeirydd, Amy; er mwyn i’r ddwy ohonom ddod yn Gadeiryddion ‘uwch-benaethiaid’ ar y cyd, gan ein gwneud yn fwy pwerus gyda’n gilydd nag ar wahân. Mae Common Wealth yn gwmni rydw i wedi’i edmygu o bell ers blynyddoedd. Byddaf yn hyrwyddo’r cwmni i’r byd ehangach, ac yn cefnogi’r tîm i fod y gorau y gall fod; fel y gall barhau i greu theatr bwerus, bwysig a hanfodol, sy’n torri drwy’r holl siarad gwag i ddod â phobl at ei gilydd mewn ffyrdd annisgwyl. Mae angen y cwmni a’i galon nawr yn fwy nag erioed. Diolch yn fawr iawn i Lisa a Jenny am eu harweiniad a’u cefnogaeth i ni gymryd yr awenau. Mae gen i dân yn fy mol a dwi’n edrych ymlaen at ddod yn rhan o hyn.