The Posh Club

Ro’n i yn y swyddfa, yn fy swydd ran-amser yn marchnata’r celfyddydau, pan edrychais ar fy ffôn. Gwelais luniau’n fflachio. Roedd rhesi o stondinau cacennau gwag yn aros yn amyneddgar mewn rhes; tyrrau o focsys o sleisys Mr Kipling, cacennau bach a bisgedi; pêl disgo yn cael ei gosod uwchben cylch pêl-fasged; swyddog cymorth cymunedol yn dawnsio ar lwyfan; a dau bâr o benolau.

A screenshot of a tweet of 4 images showing black tie hosts getting afternoon tea ready, people dancing, a woman drinking a cup of tea and a conga

Dydd Mawrth 20 Rhagfyr oedd hi a ro’n i wrthi’n wyllt yn ceisio cyrraedd diwedd fy rhestr wrth i amser wibio heibio at brysurdeb y Nadolig, fel bob blwyddyn arall. Ro’n i’n edrych ar stori Instagram theatr Common Wealth, ac yn cael blas o ddiwrnod cyntaf y perfformiadau tri diwrnod o The Posh Club yng Nghanolfan Llaneirwg yn Nwyrain Caerdydd. Ro’n i wedi cael fy nhynnu o fy niwrnod gwaith diflas a’m taflu i ddyfodol difyrrach; i fyd o linellau conga, adloniant mentrus, a phensiynwyr gwyllt.

Ro’n i wedi dechrau meddwl beth i’w wisgo; rhywbeth yr o’n i wedi meddwl ei wisgo wythnosau yn ôl. Rhywbeth a wisgais i briodas, gyda chardigan wlanog fawr goch a thinsel yn fy ngwallt. Yn y cyfarfod cychwynnol cefais wybod bod angen i mi wisgo’n smart. Nid dyma sut dwi’n gwisgo fel arfer ac mae’n air sy’n gwneud i mi deimlo braidd yn anghyfforddus. Mae’n cyfleu yn gryno braint dosbarth, mae’n teimlo ymhell o fy mywyd bob dydd ac rwy’n aml yn ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol, fel sarhad, ffordd o wrthod system sy’n eithrio cymaint. I Duckie, criw’r celfyddydau perfformio a chynhyrchwyr The Posh Club, mae’n dafod yn y boch; adnodd syml ond pwerus i ansefydlogi rhagdybiaethau a rhoi caniatâd i’w gwesteion i’w gorwneud hi, i fod yn grand, ac i gael eu gwerthfawrogi.

Tables and chairs with white table cloths and red cushions are laid out in front of a black stage in a large hall

Y bore wedyn fe wnes fy hun yn barod, gan roi llawer mwy o amser, gofal, a sylw i bob cam. Fe wnes i hyd yn oed wnïo botwm oedd wedi bod ar goll ers dros flwyddyn, yn ôl ar fy nghôt. Pan gyrhaeddais fe welais wynebau cyfarwydd tîm Common Wealth, ynghyd â gwirfoddolwyr wedi gwisgo mewn du, ac aelodau o Duckie yn eu siwtiau. Roedd pawb yn ei chanol hi; yn brysur yn ailadrodd y gwaith paratoi yr oeddwn wedi’i weld ar fy ffôn y diwrnod cynt. Ar ôl cyfarch a chyflwyno ein gilydd yn gyflym, fe wnes i ychwanegu menig glas, tafladwy, ar gyfer paratoi bwyd at fy ngwisg a dechrau gosod cacennau a siocled ar stondinau cacennau hanner llawn.

Parhaodd amser i gyflymu drwy sgyrsiau brysiog, cwestiynau cyflym, ymarferion dawnsfeydd te, profion sain, chwilio am selotep, a lapio anrhegion raffl, tan yn sydyn, roedd pobl yn cyrraedd.

Wedi’i ddyfeisio gan gynhyrchydd Duckie, Simon Casson, a’i chwaer Annie, fel digwyddiad arbennig i’w mam a’i ffrindiau, mae The Posh Club bellach yn de prynhawn a chabaret sydd wedi hen ennill ei blwyf ymysg pobl dros 60 oed gyda digwyddiadau rheolaidd yn cael eu cynnal yn Crawley, Hackney, Hastings, Brighton ac Elephant & Castle. Dyma’r tro cyntaf i’r sioe ddod i Gymru, ond roedd eisoes yn teimlo fel cynhyrchiad profiadol.

A man in a tuxedo dances with a woman in a leopard print top

Cafodd pawb eu cyfarch, gan osod eu cotiau yn ofalus ar reiliau, a’u hebrwng i’w byrddau, gyda Simon yn cynnig braich gefnogol pryd bynnag oedd ei hangen. Roedd grwpiau mwy yn cael eu cadw’n agos at ei gilydd, gan setlo ar fyrddau cyfagos, gyda bwrdd estynedig arbennig ar gyfer cartref Gofal Woodcroft, tra bod grwpiau bach ac unigolion yn cael eu cymysgu. Hen ffrindiau, ffrindiau newydd, dieithriaid, teulu, wynebau cyfarwydd a lled gyfarwydd, i gyd yn dod at ei gilydd.

Wrth wylio’r ecosystem hon yn dod i’r amlwg, ro’n i’n poeni nad oedd lle i mi yma. Fel dieithryn 30 mlynedd yn iau na’r ystod oedran, dechreuais deimlo fel fy mod yn tarfu ar rywbeth. Ro’n i’n meddwl am fy nheulu a sut brofiad fyddai dod â rhywun gyda mi, sut y gallwn i fod wedi rhannu fy ngwaith â nhw a dod yn rhan fwy dilys o’r gynulleidfa. Doedd dim pwynt meddwl am hynny, gan fod y pellter corfforol a pha mor agos oedd hi at y Nadolig yn ei wneud yn anymarferol. Roedd gweinydd sylwgar i’w weld yn synhwyro fy meirniadaeth fewnol a chynigiodd sedd i mi’n gyflym gyda grŵp ar hap. Ro’n i’n eistedd yng nghanol côr. Fe’u trefnwyd drwy’r elusen Celfyddydau ac Iechyd Re-Live, ac roeddent wedi trefnu dod i The Posh Club fel eu parti Nadolig.

A tweet from

Ymysg y sgwrsio datblygodd ymdeimlad o gynnwrf ac ansicrwydd. Doedd llawer ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl y tu allan i’r rhaglen sylfaenol, a oedd ddim ond yn rhestru’r perfformwyr a phryd y byddai’r te yn cael ei weini. Roedd gwirfoddolwyr yn perfformio rhan Gweinyddion Llestri Arian, ac yn hofran i arllwys coffi a dod yn gyfarwydd yn gyflym â’r rhai dan eu gofal. Cefais fy synnu sut y cefais innau fy nghynnwys yn hyn hefyd, gyda fy enw’n cael ei gofio a’i ailadrodd yn y sgyrsiau cyflym, y jôcs, a’r gwasanaeth y byddai’n hawdd iawn peidio â sylwi arnyn nhw. Wrth fyfyrio ar hyn nawr, rwy’n sylweddoli nad o’n i gystal am wneud hyn gan fod fy nghof yn methu rhoi enwau i’r wynebau y gallaf eu gweld mor fyw.

Ar ôl setlo, cawsom ein taflu drwy’r rhaglen, gan ddechrau gyda’r ddawns gacen. Roedd y gweinyddwyr yn brasgamu gyda phlatiau o gacennau llawn dop; gan dynnu dŵr o’n dannedd gyda danteithion nad oeddem cweit yn gallu eu cyrraedd, a symud fel nadroedd rhwng byrddau, dringo ar lwyfannau bach, a llenwi ein cacennau ag ysbryd cabaret. Wrth i’r gynulleidfa gymeradwyo daethant i orffwys ar ein byrddau o’r diwedd. Roedden ni i gyd yn sglaffio. Cyrhaeddodd brechdanau a chafodd mwy o goffi ei arllwys yn yr hyn oedd yn edrych fel te prynhawn confensiynol.

A Shirley Bassy impersonator sings her heart out

Yn sydyn symudodd ein sylw wrth i’r dynwaredwr lleol Li Harding ddod i mewn fel Shirley Bassey, gan floeddio fersiynau o Get this Party Started a Light My Fire. Dechreuodd ein gwesteiwyr a’n gweinyddwyr ddawnsio’n betrus, gan ein hannog yn ofalus y gallem symud ein cyrff y tu hwnt i’n cadeiriau. Yna, yn ôl yn ein seddi, dychwelodd yr ansicrwydd wrth i Pink Suits fynd ar y llwyfan ar gyfer y cyntaf o dri pherfformiad. Wedi’u hysbrydoli gan ffilmiau morwyr, cowbois, a Dirty Dancing, a oedd yn dod yn fwyfwy beiddgar, roedd y ddeuawd anneuaidd yn cynnig yr hyn sy’n cael ei ystyried yn adloniant priodol i bobl oedrannus. Roedden nhw’n dawnsio, yn tynnu eu dillad, yn rhannu poer, ac yn perfformio’r ddawns enwog, tra’r oedden ni’n mwynhau ein hunain mewn awyrgylch llawer mwy hudolus na’r un lwyddodd Patrick Swayze i’w gyfleu. Daethant â bywyd nos amgen, hoywon i olau dydd Canolfan Llaneirwg heb ofni codi gwrychyn, dim ond hyder yn y penderfyniad i herio’r gynulleidfa drwy ddod â gofal oedrannus a gwrthsafiad disgwyliadau rhywedd deuaidd dan yr un to.

Two dancers, a man in a pink dress and a woman in a black suit, embrace

Fel unrhyw grŵp sydd wedi’i gynnull ar sail oedran, roedd yr ymatebion yn amrywio, gyda rhai wrth eu boddau bob tro yr oedd Pink Suits yn dychwelyd i’r llwyfan, ac eraill yn amlwg yn fwy ansicr neu anesmwyth. Mae hyn yn dangos sut mae The Posh Club yn gwrthsefyll y rhagdybiaeth bod pobl hŷn yn rhannu’r un diddordebau. Mae’n cydnabod bod gan ei aelodau fywydau a all fod yn fwy amgen neu gynnil na’r hyn y mae cenedlaethau iau yn ei ragdybio, ac y byddai’n well gan rai pobl yno beidio â gweld tethi yn gyhoeddus, byddai eraill yn ymateb yr un fath i grŵp gwau, Casablanca, neu gasgliad ABBA sy’n cael ei orfodi arnyn nhw.

Roedd y cyffredinoli hwn yn fy atgoffa o dueddiadau mewn prosiectau cymunedol. Sut mae gweithgareddau’n aml yn cyhoeddi “croeso i bawb” pan fydd hyn, mewn gwirionedd, yn aml yn arwain at ddigwyddiadau sy’n methu cynrychioli unrhyw un. Mae Common Wealth Theatre a Duckie yn gweithio i herio’r cyffredinoli hwn, gan ddefnyddio gwaharddiad bwriadol i greu digwyddiadau ystyrlon a all ddechrau diwallu’r amrywiaeth gymhleth o anghenion, chwantau, a diddordebau eu gwahanol gymunedau.

Yn ôl yn y neuadd roedd y parti yn parhau. Ar ôl newid o blu i secwins, daeth Shirley Bassey yn Tina Turner wrth i fwy a mwy o bobl lenwi’r llawr, ein hyder ar y cyd yn tyfu gyda phob cân. Cafodd llinell conga ei chreu wrth i “Feelin’ Hot Hot Hot!” lenwi ein clustiau. Clywsom jôcs am drawiad ar y galon a dyheadau sy’n berthnasol i oedran gan Azara, ein Meistr Seremonïau. Cafodd y rhai ystyfnig oedd yn aros yn eu seddi eu pryfocio’n chwareus i godi gan eu ffrindiau a wnaeth yr adegau pan wnaethant godi ar eu traed yn fwy arbennig byth. Gwnaeth hyn i bawb gymeradwyo a llawenhau gan arwain at symudiadau dawnsio mwy brwdfrydig fyth.

Roedd popeth yn arwain at uchafbwynt, wedi’i danio gan y llawenydd a’r dathlu yn yr ystafell, gan orffen ar nodyn uchel anhygoel a’m gadawodd yn syfrdan ac yn teimlo braidd yn feddw, er mai dim ond prosecco di-alcohol oeddwn i wedi’i yfed. Ro’n i’n teimlo’n ddryslyd ac wedi fy nghyffroi, ac roedd yn teimlo’n anfaddeuol nad yw The Posh Club yn digwydd ym mhobman drwy’r amser. Fe wnes i’n bendant deimlo grym parti. Ei gryfder fel gweithred ar y cyd; ei ysbryd o ewfforia ac optimistiaeth; a’i allu i ddychmygu ffyrdd amgen o fyw a bod gyda’n gilydd.

Roedd yn amhosib bod yn dyst i The Posh Club, yn gweld criw o bobl hŷn mewn lle dan do, heb feddwl ar y ddwy flynedd flaenorol. Roedd y cyffro a’r llawenydd yn yr ystafell yn teimlo bron yn amhosib o’i gymharu â’r pryder a’r ofn yn sgil y pandemig y ddau Nadolig diwethaf. Cefais fy atgoffa o erthygl a ddarllenais yn ôl ym mis Chwefror 2021 gan Sophie K Rosa, In Defence of Sex and Parties, a oedd yn ymateb i’r feirniadaeth yn erbyn y rhai a leisiodd eu dyhead am y bywyd nos yr oeddent yn ei golli o ganlyniad i’r pandemig. Roedd yn dathlu pwysigrwydd partïon fel gwrthsafiad, fel math hanfodol o hunanfynegiant, ac fel cyfuniad pwerus o ddathlu a gweithredu. Er bod hyn yn canolbwyntio ar brofiad pobl ifanc yn ystod y pandemig, mae’n ymddangos ei fod hefyd yn cyfleu’r golled a’r hiraeth sy’n dod law yn llaw â heneiddio, lle mae partïon, bywyd nos, a gweithgareddau cymdeithasol yn dod yn llai aml ac yn anoddach dod o hyd iddyn nhw.

A tweet aowing three images from the Posh Club - two of Shirley Bassey , and one showing Yvonne Murphy and her mum

Er bod y pandemig wedi rhoi cipolwg i ni ar yr unigrwydd yn sgil heneiddio, mae’n hawdd i’r boblogaeth iau osgoi meddwl gormod am y peth. Gall ymddangos yn llai pwysig, yn enwedig gyda’r holl argyfyngau byw eraill sy’n effeithio ar yr hyn y gallwn ei wneud bob dydd. Gall deimlo’n frawychus gofyn y cwestiwn sut bydd eich gofal oedrannus eich hun yn edrych erbyn i chi gyrraedd yr oed, ond wrth wneud hynny gallwn fod yn feirniadol o’r cyfyngiadau sydd eisoes i’w gweld. Er bod gan bob un ohonom anghenion sylfaenol, rydym i gyd yn fwy na hynny, ac mae angen pethau i edrych ymlaen atynt hefyd; achlysuron i wisgo ein dillad gorau; llefydd i gwrdd â ffrindiau, hen a newydd; a chyfleoedd i ddawnsio!

Roedd hi’n amlwg o’r cychwyn nad ar fy nghyfer i oedd The Posh Club. Er fy mod i’n ddigon ffodus i fod yn yr ystafell a theimlo’r egni mae’n ei greu, i bobl hŷn Llaneirwg a Throwbridge roedd o’n gymaint mwy na hynny. Felly nawr, dwi’n camu o’r neilltu ac yn eich gadael gyda sylw gan ferch yng nghyfraith aelod o’r gynulleidfa.

“Gwnaeth Linda ffrind yn y digwyddiad, roedd yn eistedd ar ei bwrdd, aeth ag ef i’r clwb gweddwon gyda hi i gwrdd â phobl newydd. Dywedodd ei fod wedi cael mwy o sgyrsiau gyda phobl yn y deuddydd hwnnw nag oedd wedi eu cael yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ers i’w wraig farw. Dydych chi wir ddim yn gwybod faint mae hyn yn ei olygu i bobl.”

…………………………….

Erthygl gan Sophie Lindsey