Epic Fail oedd y man cychwyn. Dyma’r tro cyntaf i Common Wealth weithio gydag Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yn Llanrhymni, ysgol oedd yn adnabyddus am ei hymgyrch i atal ei chau yn 2018. Aeth ati i archwilio methiant; i ystyried y pwysau, y camgymeriadau, a’r siomedigaethau a all gael y gorau ohonom mor hawdd. Yn fwy penodol, roedd yn ymwneud â sut oedd disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Glan-yr-Afon yn teimlo am fethiant. Ond roedd hefyd yn ymwneud â chodi pontydd. A thorri ar draws. A gwiwerod.
Crëwyd y prosiect gan Ed Patrick, sef Kid Carpet, mewn ysgolion cynradd ym Mryste cyn iddo fynd ar daith i bedair ysgol yn Peterborough, Caerdydd, Wigan a Stoke. Y tro cyntaf i mi fynd i Glan-yr-Afon oedd i weld y perfformiad ar 16 Mehefin. Cyrhaeddais yn gynnar a chefais daith gyflym o amgylch yr ysgol, ynghyd â chipolwg ar yr ymarfer terfynol. Roedd yn ymddangos fel anrhefn fwriadol o gemau, cyfarwyddiadau, sgyrsiau’n gorgyffwrdd, ymarferion terfynol, a golygiadau munud olaf, gan ddod i ben mewn gêm llawn egni o ŵydd hwyaden hwyaden, lle daeth cadeiriau gwag yn ffynhonnell perygl ysgafn, wrth i gyflymder a’r awydd i ddychwelyd yn gyntaf i’r cylch gymryd drosodd. Funudau’n ddiweddarach cafodd y rhwystrau hyn eu llenwi. Roedd rhieni, brodyr a chwiorydd, ffrindiau, athrawon, disgyblion o flwyddyn 2 a 3 yn eistedd ar y llawr, yn syllu’n eiddgar.
Dechreuodd y ddrama gyda Kid Carpet yn chwarae record. Wrth i Afternoon Delight, cân boblogaidd Starland Vocal Band chwarae, cerddodd ar draws y neuadd, gan gyflwyno monolog am bontydd, yn llythrennol ac yn drosiadol, o foncyff dros nant, i ddŵr o dan y bont, a rhwystr i’w oresgyn. Daeth llais i dorri ar draws hyn bob tro, wrth iddo redeg yn ôl i’w ailosod, gan ein dal yn y rhan offerynnol cyhyd â phosibl. Sefydlodd y weithred ailadroddus hon ef fel ein tywysydd, rhywun sy’n rheoli’r sefyllfa ar yr un pryd, a rhywun digri. Rhywun sydd ag awdurdod, ond hefyd rhywun i chwerthin am ei ben, ei gwestiynu, a’i ddiystyru o bosib. Y tu ôl iddo roedd y disgyblion yn eistedd mewn grwpiau, wedi eu gwisgo mewn wigiau a chotiau labordy, mewn clustiau a chynffonau, mewn du ac aur, mewn siacedi pêl fas a chapiau. Dyfeiswyr, gwiwerod, dawnswyr, a chriw bownsio gyda pheli basged. Bob un yn aros yn amyneddgar am eu tro.
Cawsom ein tywys drwy gyfres o straeon. Roedd y rhain yn disgrifio gwahanol bontydd y gellid eu hystyried yn fethiannau mewn rhyw ffordd; fel y bont wiwer yn Yr Hague oedd yn caniatáu i’r anifeiliaid groesi ffordd yn ddiogel, ond dim ond 5 gwaith y cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn gyntaf; neu Bont Tacoma yn nhalaith Washington, a agorodd a chwympo yn 1940; neu Bont Droed y Mileniwm (Wobbly Bridge) yn Llundain, a gaewyd yn gyflym ac na chafodd ei hailagor tan ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wedi’i hadrodd gan Kid Carpet, torrwyd ar draws y straeon hyn yn gyson gyda chanu, cwestiynu, seibiannau hysbysebion, dawnsio, origami a llif o ddyfeisiadau disynnwyr. P’un ai a oedd yn ddyfais llaeth swigod a gafodd ei orfodi ar rieni ac athrawon, her wedi’i hamseru i ddisgyblion oedd wedi’u gwisgo fel gwiwerod i wneud gwiwerod origami heb unrhyw gyfarwyddiadau, neu glipiau fideo yn hysbysebu grisiau symudol cnau mwnci, menig magnetig, beiciau hwyaden rwber, a chypyrddau candi-fflos; dyma’r cyfle i’r disgyblion ddangos eu personoliaethau, eu pryderon a’u hiwmor yn y sioe. Gan gymysgu datganiadau gyda jôcs, roedden nhw’n rhannu ffyrdd o edrych ar ôl eu hunain ac eraill, o roi cwtsh i rywun gael cebab mawr.
Roedd yr holl berfformiad yn creu egni, cyffro heintus oedd yn teimlo fel dathliad. Pan orffennodd dywedodd rhai mai dyma’r ddrama ysgol orau oeddent erioed wedi’i gweld, ei bod yn llawer gwell na’r un o’r rhai yr oedd eu plant eu hunain wedi bod ynddyn nhw. Dywedodd rhywun arall ei fod yn fwy blêr na’r perfformiad y diwrnod cynt, ond ei fod yn well, bod ganddo fwy o egni. Roedd yn amlwg ei fod yn golygu llawer i Glan-yr-Afon, gan fod athrawon wedi sylwi ar y newid mewn rhai disgyblion, sut oedd rhai wedi magu hyder ac yn edrych ymlaen at ddod i’r ysgol. Dywedon nhw hefyd fod y gweithgaredd hwn yn rhywbeth na allan nhw fod wedi’i gyflawni heb y gefnogaeth a’r arbenigedd allanol ddaeth yn sgil y prosiect.
Er i Epic Fail geisio newid agweddau at fethu – dathlu pan fyddwch chi’n gwneud eich gorau, a theimlo’n iawn pan fydd pethau’n mynd o chwith – daeth y duedd i fframio pethau fel naill ai llwyddiant neu fethiant i’r amlwg yn syth mewn sgyrsiau ar ôl y perfformiad; symleiddio’r prosiect yn llwyddiant. Roedd yn “gymaint o hwyl”, “gwych”, “arbennig”. Roedd yr ochenaid o ryddhad o glywed sylwadau fel hyn yn amlwg. Ochenaid sy’n cydnabod yr amser, y gwaith, a’r egni y mae cymaint wedi’i gyfrannu, ac sy’n dathlu’r cyfan maen nhw wedi’i gyflawni. Ond nid yw pethau’n llwyddiant neu’n fethiant, gallant fod y ddau. Gallant fod yn gyfuniad cymhleth o safbwyntiau, disgwyliadau, a chanlyniadau, gan gwrdd â bwriadau rhai pobl a methu cyrraedd rhai pobl eraill. Pan oedd Glan-yr-Afon yn meddwl y byddai’n rhaid iddi gau, llwyddodd y gymuned i’w chadw ar agor; fodd bynnag, i gyngor Caerdydd roedd yr un canlyniad hwn yn golygu ei fod wedi methu creu system ysgolion mwy effeithlon. Gyda chymaint yn ymwneud ag Epic Fail, o ddisgyblion, athrawon, artistiaid, hwyluswyr, cynhyrchwyr, cyllidwyr, mudiadau a sefydliadau, mae’n gyfuniad blêr o wahanol flaenoriaethau ac agendâu, gyda nifer o elfennau ac effeithiau cysylltiedig.
Dydw i ddim yn credu y gall unrhyw brosiect adael pawb yn gwbl fodlon, heb unrhyw elfen na myfyrdod beirniadol. Yn enwedig un sy’n mynd ati i annog sgyrsiau ynghylch methiant. Mae pob prosiect yn ddarostyngedig i gyfyngiadau; fel arfer mae hyn yn ymwneud ag amser, arian, adnoddau, neu gapasiti unigol. Roedd Epic Fail mewn rhyw ffordd wedi’i gyfyngu gan ei uchelgais. Teithio i bedair ysgol mewn cyfnod o 8 mis gyda phythefnos ym mhob lle i chwarae, arbrofi a chynhyrchu syniadau, a phythefnos arall i ymarfer a pherfformio. Er i’r timau creadigol gael eu hadnewyddu ym mhob lleoliad, roedd pob fersiwn yn dibynnu ar egni’r prif artist i ddechrau ac adeiladu perthynas, i ailadrodd y broses greadigol, ac i arwain y disgyblion yn y perfformiadau terfynol. Yn y gân olaf yn Epic Fail, casgliad fideo a chwaraewyd y tu ôl i ddisgyblion Glan-yr-Afon, gan dorri i grwpiau eraill mewn gwahanol ysgolion, fel eu bod i gyd yn ymddangos fel eu bod wedi dod at ei gilydd i ganu’r gân heintus Do What You Can.
Mae’r unffurfiaeth hon yn uno’r ysgolion yn y foment, gan ddangos maint y prosiect ac yn cysylltu Glan-yr-Afon a Llanrhymni â Peterborough, Stoke, a Wigan. Ond roedd hefyd yn codi cwestiynau. Fel project a luniwyd fel darn wedi’i gyd-greu, faint oedd pob cynhyrchiad yn amrywio o ysgol i ysgol? Beth gafodd ei ystyried a beth na chafodd ei gynnwys? A faint gafodd ei benderfynu cyn camu i bob lleoliad?
Y cynhyrchiad yng Nglan-yr-Afon oedd yr unig dro i Epic Fail ddod i Gymru. Mae hyn yn arwyddocaol mewn sawl ffordd, ond yn enwedig gan fod ein haddysg wedi cael ei hailgynllunio’n sylweddol yn sgil y cwricwlwm newydd. Gan ddechrau ym mis Medi i ddisgyblion hyd at flwyddyn 6, ei nod yw moderneiddio dulliau dysgu, gan ychwanegu llythrennedd digidol at ei nodau craidd, meithrin gwytnwch ymysg disgyblion, gan eu gwneud yn fwy addas i newidiadau mewn bywyd a’r byd, a chanolbwyntio mwy ar sgiliau a phwrpas, yn hytrach na chynnwys a gwybodaeth benodol. Mae hyn yn golygu y gall athrawon ymateb i’w cyd-destun lleol a’u disgyblion unigol, gan symud o system sy’n canolbwyntio ar allbwn i un sy’n dathlu proses a dilyniant. Mewn geiriau eraill, symud i ffwrdd o ffiniau llwyddiant a methiant, i’r realiti mwy amwys sy’n adlewyrchu bywyd yn well.
I athrawon yng Nglan-yr-Afon, roedd Epic Fail yn gam cyntaf i roi cynnig ar hyn, ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer beth all gael ei wneud yn eu hystafelloedd dosbarth, a chipolwg ar yr hyn y gall mwy o ryddid ei olygu i ddisgyblion penodol. Mewn drych o’r cwricwlwm, doedd y pwnc methiant ddim yn teimlo fel rhan bwysig o’r prosiect. Roedd yn ymwneud â’r broses, y weithred o gymryd rhan, a sut y gwnaeth hyn drawsnewid disgyblion mewn modd ystyrlon. Mae hyn yn gwneud i fethiant deimlo fel ei fod yn rhan o sgwrs arall. Sgwrs heb gynnwys Glan-yr-Afon, sy’n digwydd rhwng sefydliadau celfyddydol, academyddion ac artistiaid, sy’n creu eu rhaglenni, eu hymchwil a’u gwaith celf gyda hyn mewn golwg. Er bod hyn yn gwneud iddo deimlo ar ei ben ei hun braidd, methiant oedd y sbarc a oedd yn cael ei gyfleu drwy’r prosiect i eraill cyn iddo ddigwydd; dyna wnaeth helpu i ffurfio’r fframwaith, a galluogi’r broses, y cyfranogiad, a’r rhyngweithio, yn ogystal â thynnu sylw at y canlyniadau annisgwyl.
Fel y dywedais ar y dechrau, roedd Epic Fail yn fan cychwyn. Ni ddaeth i ben gyda’r bowiau olaf, na’r adborth a gasglwyd ar frys rhwng llymaid o sudd a briwsion bisgedi, wrth i’r cadeiriau gael eu pentyrru o’r neilltu; fe wnaeth barhau. Dan arweiniad yr hwylusydd lleol Justin Cliffe, arhosodd y tîm. Fe wnaethon nhw barhau i weithio gyda’r disgyblion, holi cwestiynau gwirion, gwneud darluniau, dyfeisio pethau, creu trefi cardbord, ac yn bwysicaf oll, parhau â’r broses, yn hytrach na’r pwnc.
Dychwelais i Ysgol Glan-yr-Afon ar 11 Awst er mwyn cael cipolwg uniongyrchol ar hyn. Drwy fy nodiadau a’m drafftiau cychwynnol, roeddwn wedi bod yn ystyried fy mhersbectif beirniadol fel rhywun arall o’r tu allan i’r cyd-destun lleol, a’m tasg oedd rhannu rhywbeth nad oeddwn wedi bod yn rhan ohono. A minnau’n ymwybodol o’r methiant mewnol hwn, dyfeisiais weithdy, gwahoddiad i ddisgyblion ddewis, golygu, ail-greu, a gwrthod fy ngeiriau, ac i greu rhywbeth newydd. Wedi fy ysbrydoli gan y cerddi wedi torri allan gan artistiaid Dada yn yr 20fed Ganrif, rhoddais becynnau o’m nodiadau, bagiau fferins, a siswrn fel y gallai disgyblion dorri fy ngeiriau, eu gosod yn y bag, a’u tynnu allan ar hap, gan ffurfio collages nonsens a oedd yn ailosod yr hyn yr oeddwn wedi’i ysgrifennu. Roedd hefyd yn cynnwys eu geiriau eu hunain, ochr yn ochr â thestun a delweddau o’r cylchgrawn Your Dog, a oedd yn yr ystafell gelf y bore hwnnw.
Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r gweithgaredd hwn yn ffordd i mi golli perchnogaeth o fy ngeiriau, i’w trosglwyddo i’r rhai a gymerodd ran. Meddyliais y gallai’r darnau hyn fodoli yn lle’r testun hwn, gan ddangos rhywbeth a oedd yn bodloni fy niffiniad o gyd-greu yn hytrach na’i esbonio. Yn unol ag ysbryd Epic Fail, wnaeth y realiti ddim cweit gwrdd â’r nod yma. Roedd hi’n amlwg wedyn, yn union fel y cwricwlwm newydd, nad y canlyniad corfforol oedd y rhan bwysicaf, ond y broses.
Mae’r testun hwn wedi’i ddarlunio gyda cherddi wedi’u torri allan gan ddisgyblion blwyddyn 5, wedi’u gwneud o gyfuniad o nodiadau Sophie a chylchgrawn ‘Your Dog’, a grëwyd mewn gweithdy barddoniaeth Dada ar 11 Awst 2022.