Podlediad Common Wealth: Rent Party

Rydym wedi creu cyfres o bodlediadau i archwilio popeth sy’n ymwneud â Common Wealth, gan sgwrsio â’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw, y bobl sy’n ein hysbrydoli i greu sioeau a’r rhai sy’n rhoi tân yn ein boliau i weithredu ein cenhadaeth ar gyfer newid. Daw Cyfres 1 o’n sioe Rent Party, sioe 5 seren boblogaidd y mae Darren Pritchard wedi’i hailddychmygu, sy’n eich gwahodd chi, y gynulleidfa, i dalu i ddod i barti, fel y gall y cast dalu rhent y mis hwn.

Daw’r podlediadau Rent Party atoch o fwrdd y gegin, ar ôl y parti gyda’r cast a’r cyfarwyddwyr hynod dalentog. Dan arweiniad Chantal Williams (Cynhyrchydd Cymunedol Common Wealth), maent yn sôn am gyd-greu, pwy sy’n eu hysbrydoli, eu hil a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn artist dosbarth gweithiol – gan ddatgelu themâu pwysig Rent Party.

YmMhennod 1mae’r cast yn cyflwyno eu hunain, beth sy’n eu hysbrydoli, a’r sioe.

Mae Pennod 2 yn archwilio hil a magwraeth yng Nghymru a Manceinion.

Ym Mhennod 3mae’r cast yn dathlu eu mamau, y gefnogaeth sydd ganddynt o’u cwmpas, yn trafod lles ac yn rhannu cyngor ar fwrw ymlaen yn y celfyddydau.

Credydau’r podlediad:

Cast Rent Party:
Yasmine Goulden
Emilie Parry-Williams
Jude Thoburn-Price
Darnell Williams
Cyfarwyddwr Rent Party: Darren Pritchard
Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Compere Rent Party: Stuart Bowden
Llywiwr y Podlediad: Chantal Williams (Common Wealth)
Cynhyrchwyr y Podlediad: Chantal Williams (Common Wealth) and Camilla Brueton (Common Wealth)
Golygydd y Podlediad: Euan MacAleece