Er mwyn goroesi, rhaid i’r theatr newid – nid yw ‘dychwelyd i normal’ yn opsiwn.

Beth petai pob theatr a chwmni theatr yn ystyried ei hun fel cwmni theatr gymunedol? Beth petai sefydliadau’n trosglwyddo pŵer i bobl ifanc i adrodd eu straeon eu hunain a datblygu eu creadigrwydd? Beth petai gweithwyr ieuenctid yn cael eu hystyried yn weithwyr celfyddydol, a bod gan bob cymuned artist yn ei mysg? Mae Lyn Gardner yn ysgrifennu am bodlediad Culture Plan B sy’n cynnwys Common Wealth, Conrad Murray, Beatfreaks a Company Three.