All Out, Curve

mwy

All Out, Curve

Buom yn gweithio gyda 50 o bobl o 5 adran gymunedol yn Leicester Curve i greu drama benodol i safle mewn 5 diwrnod a lwyfannwyd ar sawl lefel o faes parcio cyfagos yr NCP. Dyfeisiwyd y darn gyda’r grwpiau ac archwiliwyd buddugoliaeth bêl-droed annisgwyl ddiweddar Caerlŷr yn Uwch Gynghrair Lloegr a’r hyn yr oedd yn ei olygu i’r ddinas a’i phobl. Roedd hwn yn wahoddiad lle nad oeddem yn gwybod beth fyddem yn ei wneud nes i ni gyrraedd a dechrau sgwrsio â phobl. Fe wnaethom weithio’n gyflym ac yn ymarferol, gan greu syniadau gyda’n gilydd a gwau ysbrydoliaeth weledol at ei gilydd, creu defodau, ysgrifennu testun a chwarae gyda delweddau mawr a oedd yn animeiddio’r maes parcio. Roedd yn ddifyr ac yn uchelgeisiol ac yn llawn HWYL.

Fideos

“Ddoe, roedden ni newydd feddwl am y peth, ac roedd yn ddychmygol, a nawr mae’n digwydd go iawn, gan ddefnyddio ein holl syniadau”

– Perfformiwr o’r Young Company

“Cawsom i gyd ryddhad enfawr, rydyn ni’n teimlo’n freintiedig iawn, mewn cyfnod lle bydd rhai o’n haelodau yn rhan o Dîm Curve enfawr’

– Perfformiwr

cipolwg bregus a theimladwy o obeithion a breuddwydion dinas”

– Lyn Gardner, The Guardian

Darllen mwy yma: https://www.theguardian.com/stage/theatreblog/2016/may/16/football-theatre-the-curve-leicester