
The People’s Platform
Mae The People’s Platform yn ddadl sy’n seiliedig ar berfformiad.
Wedi’i lwyfannu yng Nghlwb Cymdeithasol Penydarren, Merthyr Tudful, De Cymru gyda chast o 20 o bobl.
Archwiliodd The People’s Platform sut y gallai pobl herio canfyddiadau am ble maent yn byw a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Daeth pobl leol, llunwyr penderfyniadau ac artistiaid at ei gilydd ar gyfer dadl unigryw, yn seiliedig ar berfformiad. Ysbrydolodd The People’s Platform ddadl am ystyr lles yn lleol, beth sydd angen ei newid a sut mae cymunedau’n ganolog i lunio gwelliannau nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Llwyddodd The People’s Platform i gael cynulleidfaoedd o bobl leol a llunwyr polisi i eistedd ochr yn ochr i fod yn dyst i hanesion bywyd go iawn a dadlau am yr hyn sy’n digwydd yn y dyfodol. Cyfuniad o berfformiad, sgwrs, a noson allan hen ffasiwn dda.
Wrth wraidd y drafodaeth hon roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Fideos
-
Behind the scenes short documentary - The People's Platform
-
Dal Ati - ffilm fer wedi'i chreu gan y bobl ifanc oedd yn rhan o The People’s Platform
Erthyglau
Roeddem yn gwybod y byddai’n ddarn ardderchog o gelfyddyd wrth gynnwys TEAM National Theatre Wales a Common/Wealth, ac roedd hynny’n bwysig iawn