shows

I Belong There

mwy

I Belong There

“Mae’r ymladd yn dechrau, heb ddyngarwch; mae’r cyfri’n dechrau; rydych chi’n ffarwelio â’r bobl rydych chi’n eu caru, y lle rydych chi’n ei alw’n gartref. Dyma fy stori i ac mae’n rhaid i mi ei hadrodd.”

Mae ‘I Belong There’ yn ddrama am ryfel, goroesi a gobaith. Sioe un dyn sy’n mynd dan groen yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Syriad sy’n byw yn y DU heddiw. Mae’n ein gwahodd i feddwl am yr hyn sy’n digwydd pan fydd chwyldro’n dechrau a beth allwch chi ei wneud pan fydd y ffiniau’n cau.

Crëwyd a pherfformiwyd gan Oday Alkhalidi, Artist o Syria. Cyfarwyddwyd gan Rhiannon White.

Perfformiwyd yn Theatr y Sherman (2015), Gŵyl Solas, Glasgow (2015) a Chanolfan Southbank Llundain fel rhan o Ŵyl Being a Man (2016)

Yn 2016 dyfarnwyd Gwobr Gwneuthurwr Newid i Oday Alkhalidi yng Nghanolfan Southbank.

Erthyglau

‘Ble ydw i’n mynd?’

Cymuned National Theatre Wales, Ionawr 9fed 2016

Rhestr gydnabod

Cyfarwyddwyd gan Rhiannon White. Cefnogwyd I Belong There gan WalesLab, menter datblygu artistiaid National Theatre Wales.