Pwy sy’n cael adeiladu diwylliant? Gwersi gan y Seinfwrdd

Yn 2018, penderfynodd Common/Wealth sefydlu ail gartref yng Nghaerdydd — dinas enedigol Rhiannon, y Cyd-sylfaenydd a’r Cyd-gyfarwyddwr Artistig. Wrth lwc, daeth lle ar gael mewn tafarn ar ei newydd wedd, wedi’i thrawsnewid yn adeilad ased cymunedol.

Mae ein swyddfa ar stryd lle’r oedd tŷ cyngor cyntaf rhieni Rhiannon ar un adeg. Mae wedi’i lleoli ar draws tair ystâd dai gydgysylltiedig – yr un lle y mae ein Cyd-gyfarwyddwr Artistig a’n Cynhyrchydd Cymunedol yn dod ohono ac yn dal i fyw yno. Ac fel llawer o ystadau cyngor ledled y DU, mae wedi cael ei anwybyddu ers tro o safbwynt buddsoddiad a chyfleoedd diwylliannol.

Pan wnaethon ni sefydlu’r swyddfa roedden ni’n gwybod, er mwyn i Common/Wealth fod yn ddefnyddiol ac o bwys i bobl, y byddai angen i’r gymuned deimlo’n gysylltiedig a’i bod yn cael ei chynnwys. Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid iddi berthyn iddyn nhw gymaint ag y mae’n perthyn i ni. Roedden ni eisiau adeiladu rhywbeth ystyrlon, felly fe wnaethon ni greu’r Seinfwrdd — grŵp o bobl o’r dosbarth gweithiol oedd eisiau newid pethau.

Ar ei anterth, daeth y Seinfwrdd â 12 o bobl ynghyd o bob cwr o Dde Cymru, o Laneirwg i Goed-duon. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr undeb wedi ymddeol, cerddorion, mamau, pobyddion — pobl â phrofiad go iawn, persbectif a phŵer. Y nod oedd creu cymuned a allai lunio gwaith yn lleol, tra hefyd yn gallu dylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn ehangach fel cwmni. Daethant yn rhan o’n DNA yn gyflym. 

Beth rydyn ni wedi’i adeiladu gyda’n gilydd

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gwneud pethau anhygoel gyda’n gilydd.

Fe wnaethom greu Payday Party a mynd â’r cynhyrchiad i Ŵyl Ymylol Caeredin fel rhan o Arddangosfa Gymreig Cyngor Celfyddydau Cymru. Siaradodd aelodau’r Seinfwrdd ar y llwyfan yn y Rhwydwaith Cyd-greu Newid yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea. Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni gyflwyno Posh Club — gan sicrhau bod pobl hŷn ein cymuned yn cael eu cefnogi, eu dathlu, a’u difyrru mewn steil. Roedd aelodau ein Seinfwrdd yn ganolog i ddatblygiad Demand the Impossible — gan lunio’r broses o adrodd straeon, cyfrannu at ei elfennau digidol, ac, i rai, perfformio am y tro cyntaf erioed.

A thu hwnt i’r “digwyddiadau mawr,” roedd yna rai llai dirifedi a oedd yr un mor bwysig.

Jude yn sefyll ar y llwyfan yng Nghaeredin, yn dweud wrth bawb am beryglon trowsus punt Primark. David yn rhannu ei farddoniaeth yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Nicki, yn siarad mor angerddol o flaen ystafell llawn cyllidwyr, gan eu swyno’n lân. Gwahoddodd y grŵp artist enwog yn rhyngwladol i beintio murlun yn Llaneirwg — a llwyddon nhw i wneud hynny. Oherwydd eu bod nhw’n ddigon dewr i ofyn: pam lai?

Nawr, mae’r murlun hwnnw’n sefyll fel rhywbeth parhaol. Rhywbeth hardd. Rhywbeth sy’n siarad y tu hwnt i’n hamser gyda’n gilydd. 

Mwy nag enw

Petaech chi’n ystyried dim ond yr enw, efallai y byddech chi’n meddwl bod y Seinfwrdd yno i wrando arnom ni a’n cynghori. Roedden nhw gymaint mwy na hynny. Mewn gwirionedd, mae’n debyg ein bod ni wedi bathu’r enw anghywir o’r dechrau. Roedden nhw’n weithredol, yn bresennol — yn llunio, yn creu ac yn gwthio. Nid dim ond ymateb i syniadau, ond yn rhan hanfodol o wneud i bopeth ddigwydd. 

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi dychwelyd at y cwestiwn o enwi—pa iaith sy’n egluro orau beth yw’r Seinfwrdd a beth mae’n ei wneud. Ar un adeg, daethom yn agos at ei alw’n The Commons. Roedd yr enw’n deillio’n naturiol o gyfarfod Seinfwrdd ac roedd yn teimlo’n eithaf perthnasol i’r hyn roedden ni’n ei gynrychioli. 

Rydyn ni wrth ein bodd â’r syniad o gyffredinoli fel arfer ac fel cysyniad. I ni, mae cyffredinoli’n cyfleu posibilrwydd y celfyddydau, nid fel rhywbeth i fod yn berchen arno neu ei ddefnyddio, ond fel adnodd a rennir: wedi’i lunio ar y cyd, ac wedi’i wreiddio yn ei le ar gyfer pobl. 

Mae meddwl am rannu diwylliant yn Nwyrain Caerdydd yn golygu gofyn cwestiwn gwahanol am sut mae diwylliant yn gweithio-sut mae’n cael ei ariannu, pwy sy’n cael ei ysgogi, a sut mae’n bodoli ar gyfer cymunedau dosbarth gweithiol fel ein un ni. Yn ei hanfod, mae cyffredinoli’n golygu rhannu adnoddau-yr elfennau cyffredin-sy’n cael eu creu, eu rheoli a’u cynnal drwy gydweithredaeth, y celfyddydau fel cyfoeth a rennir. Er na wnaethom ddefnyddio’r enw The Commons, mae’r syniad y tu ôl iddo’n parhau fel sail i ni a’n cymuned sy’n ymwneud â’r gwaith. I Common/Wealth mae’n angor tawelyn tywys sut rydyn ni’n dod at ein gilydd, sut rydyn ni’n gwrando, a sut rydyn ni’n dychmygu diwylliant. Gan ddefnyddio syniad Raymond Williams bod “diwylliant yn gyffredin,” mae gennym ddiddordeb yn yr hyn y mae’n ei olygu i roi hynny ar waith go iawn, a sut rydyn ni’n cefnogi’r amodau i ddiwylliant fod yn rhan o fywydau pob un ohonom.

Beth nesaf

Am y tro, rydyn ni wedi penderfynu cau’r fersiwn hon o’r Seinfwrdd.

Mae ein gwaith yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â’n gwaith cydweithredol yn Bradford, wedi ein gwthio i feddwl ychydig yn wahanol. Rydyn ni nawr yn dod â’r pethau hynny rydyn ni wedi’u dysgu ynghyd i greu strwythur newydd ar draws y cwmni – un sy’n cysylltu’r ddwy ddinas ac yn cefnogi ein cymunedau mewn ffyrdd newydd.

Byddwn yn rhannu mwy am hyn yn fuan. Cadwch eich llygad ar agor.

Ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r Seinfwrdd — Hayat, Steph, Dave, Yassmein, Nel, Isaac, Justin, Nicky, Charlene, Charlie, Callum, Jesse, Lisa, Poppy, Clint, Janine, Jude, Sherrell, Eridan — diolch o galon.

Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn datblygu’r mudiad gyda chi ac er na fyddwn ni’n ymgynnull yn ffurfiol am ychydig, bydd y tegell wrth law a’r bisgedi’n barod bob amser. 

Ysgrifennwyd gan Rhiannon White a Chantal Williams