
Reclaim The Space
Mae Reclaim the Space yn ddarn newydd, anhygoel o gelf stryd gan yr artist rhyngwladol, Helen Bur, sy’n byw yn y DU. Gan gyfleu calon ac enaid y gymuned wych yn Llaneirwg, mae’n cynnwys dros 50 o bobl leol yn gorwedd mewn criw ar y glaswellt yn y caeau y tu ôl i Tesco yn ystod haf 2023. Wedi’i beintio ar wal 24 metr o hyd yn y gofod dinesig yn Llaneirwg, mae’r gwaith celf yn dangos pobl o bob oed (a’u cŵn!) yn gorwedd ar y glaswellt yn yr heulwen, yn gwneud campau… yn cael cwtsh ac yn adennill eu gofod naturiol a threfol lleol.
Wedi’i ysbrydoli gan yr ymateb anhygoel i Us Here Now (ein prosiect ffotograffiaeth blaenorol yn yr un gofod, a wnaethpwyd gyda’r artist Jon Pountney) a pha mor ddigalon oedd pobl mai dim ond prosiect dros dro oedd hwn, gwnaeth Common/Wealth gais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddod â gwaith celf mwy parhaol yma. Buom yn gweithio gyda’n Seinfwrdd i ddod o hyd i’r artist cywir i’w gomisiynu ac i gydweithio â’n cymuned leol. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd ag ymateb Helen a’r ymateb i’w gwaith – mae’n wirioneddol ysbrydoledig.
Mae Reclaim the Space wedi’i gyflwyno i Julie George, brenhines ein neuadd ddawns.