Sgyrsiau a Gweithdai

Do It Yourself: Making Political Theatre, llyfr gan Common/Wealth

Wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Jenny Hughes, cyn ymddiriedolwr Common/Wealth ac Athro Drama ym Mhrifysgol Manceinion, a’r cyd-Gyfarwyddwyr Artistig/Sylfaenwyr, Evie Manning a Rhiannon White.

Mae’r llyfr yn rhannu ymagwedd Common/Wealth at wneud perfformiadau gwleidyddol penodol i safle mewn partneriaeth â chymunedau dosbarth gweithiol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigon da gan y sector diwylliannol ffurfiol. 

Ynghyd â chyhoeddi llyfr cyntaf Common/Wealth, gallwn gynnig amrywiaeth o sgyrsiau a gweithdai ymarferol ar gyfer cyd-destunau addysgol a chymdeithasol i gyd-fynd â’ch anghenion, eich digwyddiad a’ch cyllideb. Gallwn hefyd greu rhywbeth wedi’i deilwra.

Sgwrs: 1 awr a 15 munud, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb

Byddwn yn rhannu ein tarddiad gwneud pethau ein hunain, sut rydyn ni wedi gwneud sioeau ar hyd y daith a pham mae gwneud theatr wleidyddol yn hanfodol ac yn frys yn awr fwy nag erioed. Bydd amser i holi cwestiynau ar y diwedd a gobeithio y bydd yn eich annog i wneud pethau eich hun! Galwad i’r gad gyda chyngor ysbrydoledig ac ymarferol ar hyd y daith.

Hyd: 50 munud a sesiwn holi ac ateb, tua: 1 awr 15 munud

Canllaw oedran: 12+ 

Capasiti: dim cyfyngiadau

Gweithdy – Doing it Yourself: 2 awr a 30 munud

Bydd y gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad byr i ystod o ymarferion ymarferol i’ch galluogi i weithio gyda phobl eraill i greu theatr wleidyddol a sicrhau newid cymdeithasol. Bydd yr ymarferion yn rhoi cipolwg i chi ar Common/Wealth, sut rydyn ni’n creu theatr wreiddiol yn y fan a’r lle, a hynny gyda phobl sydd efallai heb fod yn rhan o unrhyw broses creu theatr o’r blaen. Byddwn yn rhannu ein tarddiad gwneud pethau ein hunain, pam mae’r cwmni’n bodoli, a sut rydyn ni’n tynnu sylw at anghyfiawnderau cymdeithasol drwy greu theatr o ansawdd uchel sydd wedi ennill gwobrau.

Addas ar gyfer pobl sy’n newydd i theatr, cynhyrchwyr theatr profiadol, ymgyrchwyr a threfnwyr cymunedol. 

Hyd: 2 awr a 30 munud gan gynnwys egwyl 15 munud

Canllaw oedran: 16+

Capasiti: dim mwy na 15 o bobl

Gweithdy – Doing it Yourself: Hanner diwrnod – 4 awr

Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i ystod o ymarferion ymarferol a fydd yn eich ysbrydoli i weithio gyda phobl eraill i greu theatr wleidyddol a sicrhau newid cymdeithasol. Gan ddefnyddio eich profiad go iawn chi, bydd yr ymarferion yn rhoi cipolwg i chi ar Common/Wealth, sut rydyn ni’n creu theatr wreiddiol yn y fan a’r lle, a hynny gyda phobl sydd efallai heb fod yn rhan o unrhyw broses creu theatr o’r blaen. Bydd y gweithdy hefyd yn rhoi cipolwg i chi ar pam mae’r cwmni’n bodoli, a sut rydyn ni’n tynnu sylw at anghyfiawnderau cymdeithasol drwy greu theatr o ansawdd uchel sydd wedi ennill gwobrau.

Addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad o theatr, ymgyrchu neu drefnu digwyddiadau cymunedol ac sydd eisiau dysgu mwy am alluogi eraill i feithrin y profiad hwnnw.

Hyd: 4 awr gan gynnwys egwyl 30 munud

Canllaw oedran: 16+

Capasiti: dim mwy na 20 o bobl

I holi am archebu sesiwn siarad neu weithdy neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy [email protected]

Beth mae pobl wedi’i ddweud am y llyfr:

‘Mae Common/Wealth yn brwydro yn erbyn y gwahaniad a’r datgysylltiad yn sgil bywyd o dan gyfalafiaeth hwyr gyda gweithredoedd syml o gysylltiad anghyffredin. Mae ei waith yn bwerus, yn hwyliog, yn bwrpasol ac yn llawn uniondeb. Mae’n llwyfannu cynyrchiadau sy’n poeni am bobl, ac y mae pobl yn poeni amdanyn nhw. Mae’r llyfr hwn yn rhannu sut mae’n gwneud hynny.’
-Kae Tempest

‘Ers ei waith cynharaf un mae Common/Wealth wedi dangos gallu prin i gyfuno meddwl gwleidyddol manwl gywir a thrylwyr ag ymdeimlad hwyliog o arbrofi artistig. Gan wrando bob amser ar y cymunedau mae’n gweithio gyda nhw, a bod yn ymwybodol bob amser o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes perfformiad, mae’n cyfleu llawenydd darganfod ym mhopeth mae’n ei wneud, ac yn ein cyfoethogi ni i gyd yn y broses.’
-John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr, Factory International

‘Mae’r llyfr hwn yn alwad i weithredu. Mae’n ddeunydd ysbrydoledig a chalonogol i unrhyw un sy’n cynhyrchu theatr, neu sydd wedi blino ar deimlo’n ddiymadferth yn ceisio sicrhau newid. Peidiwch ag oedi, darllenwch y llyfr yma!’
-Gob Squad

‘Bloedd ddelfrydol maniffesto sy’n llawn adnoddau ymarferol ar gyfer gwneud theatr. Cydymaith i Theatre of the Oppressed gan Boal. Mae cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr theatr ar fin cael ei chreu. Fel mae’r awduron yn ei ddweud, ‘peidiwch ag aros am ganiatâd’. Felly ewch, byddwch yn fentrus yn yr hyn rydych chi’n ei greu, mae eich angen chi arnom ni fwy nag erioed.’
-Patrick Jones, Bardd a dramodydd

‘Mae Do It Yourself yn llawlyfr hanfodol ar gyfer creu theatr wleidyddol, safle-benodol pan fo angen dirfawr amdani. Mae Common/Wealth ymhlith y goreuon yn y busnes, gan flaenoriaethu sgwrsio, chwarae a dyfeisio mewn dull sy’n amharchus, yn ddyfeisgar, yn llawn ysbryd ac yn ysgogol.’
-Jen Harvie, Prifysgol Queen Mary Llundain

‘Dyma lyfr sy’n esbonio pam mae theatr yn bwysig, pam mae’n bwysig pwy sy’n gwneud theatr, a beth ellir ei wneud i newid sut mae theatr yn cael ei gwneud. Mae’n gweithredu er gwell, yn adroddiad ymarferol, angerddol o’r hyn sy’n bosibl, a sut i gyflawni’r amhosibl. Darllenwch y llyfr, dysgwch, a gweithredwch. Nawr.’
-Helen Nicholson, Royal Holloway, Prifysgol Llundain

‘Mae’n wych. Cwbl syfrdanol.’
-Matt Woodhead. Cyd-Gyfarwyddwr, LUNG

‘Yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn hynod ysbrydoledig. Mewn cyfnod pan fo cymaint yn ymddangos mor doredig ac angen gweithredu brys, mae’r llyfr hwn yn adnodd pwysig a hynod ymarferol i’r rhai sy’n rhannu argyhoeddiad Common/Wealth y gall theatr newid pethau er gwell.
-Bobby Smith, Prifysgol Warwick

‘Nid yw “diwylliant” yn eiddo i bobl freintiedig. Mae ym mhobman ac yn cael ei greu gan bawb. Mae Common/Wealth yn gwybod hyn – mae wedi bod yn profi hynny ers blynyddoedd. Mae’r llyfr hwn yn rhoi caniatâd i ni i gyd roi’r gorau i aros, rhoi’r gorau i ofyn a dechrau gweithredu ar ein telerau ein hunain. Mae Common/Wealth wedi creu rhywbeth hanfodol – pecyn cymorth beiddgar, defnyddiol, a digyfaddawd er mwyn defnyddio creadigrwydd i adeiladu’r byd yr ydyn ni eisiau byw ynddo a bod yn rhan ohono. Nid rhywbeth ar yr ymylon yw gwleidyddiaeth. Nid rhywbeth yn y cefndir yw dosbarth. Mae’r llyfr hwn yn nodi hynny’n glir – ac yn gwrthod gadael i chi ei anghofio.

Mae Do It Yourself: Making Political Theatre yn alwad i amharu, i dorri’n rhydd, ac i chwarae heb ymddiheuro. Mae’n ymarferol, yn wleidyddol, ac wedi’i wreiddio mewn gofal. Oherwydd nid yw Gwneud Pethau Eich Hun yn golygu bod ar eich pen eich hun – mae’n golygu ar y cyd, yn flêr, ac ar ein telerau ein hunain. Mae’n ein hatgoffa y gallwn ni i gyd benderfynu beth yw theatr, ar gyfer pwy, a ble mae’n digwydd.

-Katy Baird, Artist a Chyfarwyddwr Home Live Art

‘P’un ai a ydych chi’n artist sy’n dod i’r amlwg, yn ymgyrchydd sydd wedi blino ar frwydro, neu’n rhywun nad ydych erioed wedi gwneud theatr, bydd y llyfr hwn yn rhoi meicroffon a set o offer i chi. Nid dim ond llyfr yw Do It Yourself – mae’n alwad i ymgyrchu!’
-Keith Saha, Cyfarwyddwr Artistig/Prif Swyddog Gweithredol ar y Cyd/Cyd-sylfaenydd, 20 Stories High

Arall Sgyrsiau a Gweithdai

Mae Common/Wealth ac aelodau o Speakers Corner wedi siarad mewn digwyddiadau ledled y DU. Rydyn ni ar gael ar gyfer sgyrsiau, digwyddiadau pryfocio a thrafodaethau panel. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi bod yn rhan o drafodaethau am theatr sy’n benodol i safle, theatr wleidyddol a radical, arferion cymdeithasol, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol, democratiaeth ddiwylliannol, ffurf arbrofol a rôl artistiaid gwleidyddol. Rydyn ni wrth ein bodd yn cael ein herio, yn cynnal dadl ac yn creu pryfociadau newydd a fydd yn gwthio ffiniau theatr a gwleidyddiaeth.

Mae Common/Wealth a Speakers Corner wedi ymddangos yn y digwyddiadau a’r lleoedd canlynol;

Cynhadledd No Boundaries, Common Ground yn y Lowry, Gulbenkian – Cynhadledd Rôl Ddinesig i Sefydliadau Celfyddydol, Wild Conference, cynhadledd ABO, Ail-ddychmygu democratiaeth leol gydag Open Democracy, Gŵyl The World Transformed Prifysgol Manceinion, Prifysgol Caerefrog, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan Gelfyddydau Battersea, Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Arnolfini, Clore Fellowship a Theatr Genedlaethol Cymru.

I holi am archebu sesiwn siarad neu weithdy neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy [email protected]

A photograph of a lake surrounded by mountains