Do It Yourself: Making Political Theatre

Mae Common/Wealth wedi creu ein llyfr cyntaf, Do It Yourself: Making Political Theatre. Mae wedi’i ysgrifennu gan ein Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig Evie Manning a Rhiannon White, ochr yn ochr â Jenny Hughes, Athro Drama ym Mhrifysgol Manceinion. 

Mae Making Political Theatre yn edrych yn ôl ar ein gwaith. Mae’n rhannu ein methodoleg, ein profiadau personol a’r ffaith ein bod ni’n credu bod theatr yn adnodd ar gyfer newid cymdeithasol. Rydyn ni’n hynod falch bod adran fwyaf y llyfr yn becyn cymorth ymarferol gyda chyfraniadau gan gydweithwyr y gorffennol a’r presennol, sy’n rhannu dulliau nid yn unig o greu theatr, ond o sefydlu eich cwmni theatr eich hun, gan wneud iddo dyfu a goroesi.

Mae Do It Yourself yn adnodd hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archwilio diwylliant theatr sydd wedi’i seilio ar gymunedau dosbarth gweithiol ac wedi’i gynhyrchu ganddynt. Wedi’i gynllunio ar gyfer artistiaid, ymgyrchwyr a threfnwyr cymunedol, mae’r llyfr yn cynnig canllaw cam wrth gam i greu theatr wleidyddol sy’n berthnasol, yn effeithiol ac wedi’i gwreiddio ym mywydau pobl bob dydd.

Mae Common/Wealth wedi treulio pymtheg mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd theatr wleidyddol. Yn Do It Yourself, rydyn ni’n rhannu ein dull arbrofol a gweithredol o greu perfformiadau, yn seiliedig ar egwyddorion Gwneud Pethau Eich Hun a’r gred y gellir creu theatr arloesol gydag unrhyw un, unrhyw le, mewn ffyrdd sy’n wirioneddol berthnasol i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Mae Do It Yourself yn cyflwyno ethos artistig a gwleidyddol Common/Wealth, yn rhoi cipolwg unigryw ar ein perfformiadau mwyaf arwyddocaol, ac yn cynnig ymarferion ymarferol ar gyfer creu eich gwaith eich hun. Ond nid dim ond llawlyfr yw hwn. Mae’n ddathliad o ddiwylliant fel ymdrech ar y cyd, un a all herio’r status quo ac ysbrydoli newid.

Bydd Do It Yourself: Making Political Theatre yn cael ei gyhoeddi yn Hydref 2025, ac mae modd archebu copi ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Manceinion nawr!

Adolygiadau:

‘Mae Common/Wealth yn brwydro yn erbyn y gwahaniad a’r datgysylltiad yn sgil bywyd o dan gyfalafiaeth hwyr gyda gweithredoedd syml o gysylltiad anghyffredin. Mae ei waith yn bwerus, yn hwyliog, yn bwrpasol ac yn llawn uniondeb. Mae’n llwyfannu cynyrchiadau sy’n poeni am bobl, ac y mae pobl yn poeni amdanyn nhw. Mae’r llyfr hwn yn rhannu sut mae’n gwneud hynny.’
-Kae Tempest

‘Ers ei waith cynharaf un mae Common/Wealth wedi dangos gallu prin i gyfuno meddwl gwleidyddol manwl gywir a thrylwyr ag ymdeimlad hwyliog o arbrofi artistig. Gan wrando bob amser ar y cymunedau mae’n gweithio gyda nhw, a bod yn ymwybodol bob amser o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes perfformiad, mae’n cyfleu llawenydd darganfod ym mhopeth mae’n ei wneud, ac yn ein cyfoethogi ni i gyd yn y broses.’
-John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr, Factory International

‘Mae’r llyfr hwn yn alwad i weithredu. Mae’n ddeunydd ysbrydoledig a chalonogol i unrhyw un sy’n cynhyrchu theatr, neu sydd wedi blino ar deimlo’n ddiymadferth yn ceisio sicrhau newid. Peidiwch ag oedi, darllenwch y llyfr yma!’
-Gob Squad

‘Bloedd ddelfrydol maniffesto sy’n llawn adnoddau ymarferol ar gyfer gwneud theatr. Cydymaith i Theatre of the Oppressed gan Boal. Mae cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr theatr ar fin cael ei chreu. Fel mae’r awduron yn ei ddweud, ‘peidiwch ag aros am ganiatâd’. Felly ewch, byddwch yn fentrus yn yr hyn rydych chi’n ei greu, mae eich angen chi arnom ni fwy nag erioed.’
-Patrick Jones, Bardd a dramodydd

‘Mae Do It Yourself yn llawlyfr hanfodol ar gyfer creu theatr wleidyddol, safle-benodol pan fo angen dirfawr amdani. Mae Common/Wealth ymhlith y goreuon yn y busnes, gan flaenoriaethu sgwrsio, chwarae a dyfeisio mewn dull sy’n amharchus, yn ddyfeisgar, yn llawn ysbryd ac yn ysgogol.’
-Jen Harvie, Prifysgol Queen Mary Llundain

‘Dyma lyfr sy’n esbonio pam mae theatr yn bwysig, pam mae’n bwysig pwy sy’n gwneud theatr, a beth ellir ei wneud i newid sut mae theatr yn cael ei gwneud. Mae’n gweithredu er gwell, yn adroddiad ymarferol, angerddol o’r hyn sy’n bosibl, a sut i gyflawni’r amhosibl. Darllenwch y llyfr, dysgwch, a gweithredwch. Nawr.’
-Helen Nicholson, Royal Holloway, Prifysgol Llundain

‘Mae’n wych. Cwbl syfrdanol.’
-Matt Woodhead. Cyd-Gyfarwyddwr, LUNG

‘Yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn hynod ysbrydoledig. Mewn cyfnod pan fo cymaint yn ymddangos mor doredig ac angen gweithredu brys, mae’r llyfr hwn yn adnodd pwysig a hynod ymarferol i’r rhai sy’n rhannu argyhoeddiad Common/Wealth y gall theatr newid pethau er gwell.
-Bobby Smith, Prifysgol Warwick

‘Nid yw “diwylliant” yn eiddo i bobl freintiedig. Mae ym mhobman ac yn cael ei greu gan bawb. Mae Common/Wealth yn gwybod hyn – mae wedi bod yn profi hynny ers blynyddoedd. Mae’r llyfr hwn yn rhoi caniatâd i ni i gyd roi’r gorau i aros, rhoi’r gorau i ofyn a dechrau gweithredu ar ein telerau ein hunain. Mae Common/Wealth wedi creu rhywbeth hanfodol – pecyn cymorth beiddgar, defnyddiol, a digyfaddawd er mwyn defnyddio creadigrwydd i adeiladu’r byd yr ydyn ni eisiau byw ynddo a bod yn rhan ohono. Nid rhywbeth ar yr ymylon yw gwleidyddiaeth. Nid rhywbeth yn y cefndir yw dosbarth. Mae’r llyfr hwn yn nodi hynny’n glir – ac yn gwrthod gadael i chi ei anghofio. 

Mae Do It Yourself: Making Political Theatre yn alwad i amharu, i dorri’n rhydd, ac i chwarae heb ymddiheuro. Mae’n ymarferol, yn wleidyddol, ac wedi’i wreiddio mewn gofal. Oherwydd nid yw Gwneud Pethau Eich Hun yn golygu bod ar eich pen eich hun – mae’n golygu ar y cyd, yn flêr, ac ar ein telerau ein hunain. Mae’n ein hatgoffa y gallwn ni i gyd benderfynu beth yw theatr, ar gyfer pwy, a ble mae’n digwydd.

-Katy Baird, Artist a Chyfarwyddwr Home Live Art

‘P’un ai a ydych chi’n artist sy’n dod i’r amlwg, yn ymgyrchydd sydd wedi blino ar frwydro, neu’n rhywun nad ydych erioed wedi gwneud theatr, bydd y llyfr hwn yn rhoi meicroffon a set o offer i chi. Nid dim ond llyfr yw Do It Yourself – mae’n alwad i ymgyrchu!’
-Keith Saha, Cyfarwyddwr Artistig/Prif Swyddog Gweithredol ar y Cyd/Cyd-sylfaenydd, 20 Stories High