shows

Reclaim The Space

mwy

Reclaim The Space

Mae Reclaim the Space yn ddarn newydd, anhygoel o gelf stryd gan yr artist rhyngwladol, Helen Bur, sy’n byw yn y DU. Gan gyfleu calon ac enaid y gymuned wych yn Llaneirwg, mae’n cynnwys dros 50 o bobl leol yn gorwedd mewn criw ar y glaswellt yn y caeau y tu ôl i Tesco yn ystod haf 2023. Wedi’i beintio ar wal 24 metr o hyd yn y gofod dinesig yn Llaneirwg, mae’r gwaith celf yn dangos pobl o bob oed (a’u cŵn!) yn gorwedd ar y glaswellt yn yr heulwen, yn gwneud campau… yn cael cwtsh ac yn adennill eu gofod naturiol a threfol lleol.

Wedi’i ysbrydoli gan yr ymateb anhygoel i Us Here Now (ein prosiect ffotograffiaeth blaenorol yn yr un gofod, a wnaethpwyd gyda’r artist Jon Pountney) a pha mor ddigalon oedd pobl mai dim ond prosiect dros dro oedd hwn, gwnaeth Common Wealth gais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddod â gwaith celf mwy parhaol yma. Buom yn gweithio gyda’n Seinfwrdd i ddod o hyd i’r artist cywir i’w gomisiynu ac i gydweithio â’n cymuned leol. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd ag ymateb Helen a’r ymateb i’w gwaith – mae’n wirioneddol ysbrydoledig.

Mae Reclaim the Space wedi’i gyflwyno i Julie George, brenhines ein neuadd ddawns.

Rhestr gydnabod

Celf gan Helen Bur

Lluniau gan Jon Pountney

Wedi’i gynhyrchu gan dîm Common Wealth: Camilla Brueton, Chantal Williams a Rhiannon White

Hoffai Common Wealth ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o Reclaim The Space.

Roedd Reclaim the Space wedi cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Paul Hamlyn, rhoddion gan bobl leol a’i gefnogi gan Tesco Llaneirwg.

Arts Council Wales logoPaul Hamlyn Foundation logo