Take Your Place
Mae Take Your Place yn brosiect celfyddydau ac actifiaeth newydd sy’n cysylltu ac yn datblygu pobl ifanc dosbarth gweithiol 14-18 oed.
Mae Take Your Place ar gyfer pobl sy’n breuddwydio, yn adeiladu, yn meddwl, pobl sydd â rhywbeth i’w ddweud, sy’n teimlo’n rhwystredig am y byd, ac sy’n barod i lunio ac adeiladu dyfodol newydd. Mae’n golygu herio’r systemau presennol a dychmygu ffyrdd newydd o fyw. Mae’n golygu symud pethau, a phobl ifanc yn herio’r hyn nad yw’n addas i’r diben a bod yn ddigon dewr i ofyn am rywbeth gwell. Mae’n golygu pobl ifanc yn dod o hyd i’w lle, yn herio camsyniadau, ac yn gadael eu hôl.
🌟 Ydych chi’n 14 -18 oed? Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud?
🌟 Ydych chi eisiau cymryd rhan a siapio’r dyfodol?
🌟 Eisiau meithrin cyfeillgarwch a rhwydweithiau newydd a chyfnewid gwybodaeth a syniadau gyda phobl wych sy’n meddwl ac yn breuddwydio?
Rydyn ni’n chwilio am ddwy garfan o bobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan – yng Nghaerdydd ym mis Mai 2024.